Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 3 April 2015

Peidiwch ag ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg

Plis, plis, plis - peidiwch ag ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg


Dydd Mawrth 31 Mawrth 2015

Annwyl Gyfaill,

Rwy'n ysgrifennu er mwyn eich rhybuddio ynghylch mater o bwys i bob Cymro rhesymol. Yn ôl y sôn mae Cymdeithas yr Iaith ar fin lansio ymgyrch i recriwtio aelodau. Maen nhw'n bwriadu targedu pobl sydd wedi dangos cydymdeimlad tuag at y mudiad yn y gorffennol, ac o bosib cyn-aelodau hefyd.

Os ydych chi yn un o'r ddau gategori yma, byddwch yn ofalus iawn rhag cael eich temtio ganddyn nhw. Os ydych chi wedi stopio talu aelodaeth, mae'n siŵr bod rheswm da am hynny -- falle bo chi wedi tyfu lan a sylweddoli bod y byd wedi newid ers 1963!!

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dipyn o boendod i bobl fel chi a fi sy'n credu mewn Trefn. A rhyngoch chi a fi, maen nhw'n haslo fi am rywbeth o hyd. Cofiwch, unwaith fyddan nhw wedi cael eu ffordd, fyddan nhw moyn rhywbeth arall wedyn yn syth. Edrychwch ar rai o'r pethau maen nhw wedi'n gorfodi ni, y Sefydliad, i ildio:

  • Sianel deledu Gymraeg
  • Mesur y Gymraeg 2011 sy'n rhoi statws swyddogol i'r iaith a hawliau newydd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
  • Coleg Cymraeg fel bod myfyrwyr yn cael astudio drwy'r Gymraeg yn y brifysgol

Beth mwy maen nhw moyn? Eithafwyr llwyr, fyddan nhw ddim yn hapus nes bod pawb yn siarad Cymraeg ac yn byw yn Gymraeg!

Maen nhw'n gobeithio cael mwy o aelodau er mwyn cryfhau fel mudiad ac ymgyrchu dros bob math o bethau eithafol. Os newch chi ymuno, dyma'r math o syniadau fyddwch chi'n cefnogi:

Addysg Gymraeg i Bawb
Am syniad dwl! Pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg? O ble gewn ni'r athrawon? Wel ie, ni sy'n gyfrifol am hyfforddi athrawon... Ond mae'n bosib mynd â'r busnes iaith ma'n rhy bell cofiwch.
System Tai a Chynllunio sy'n llesol i'r iaithMwy o gymunedau lle mae pawb yn siarad Cymraeg? Na, mae'n well wynebu realiti, does dim dyfodol i'r iaith yn y cymunedau yma.
Darlledwr Newydd Aml-Blatfform: ar-lein, ar y radio a hyd yn oed ar blatfformau eraill 'modern'Gallai hyn fod yn beryglus iawn. Beth os yw pobl ifanc yn dechrau meddwl bod y Gymraeg yn cŵl?! Mae digon o stwff Saesneg ar gael.

Rwy'n credu bod y pwynt yn ddigon clir, yndyw e?

Peidiwch ymaelodi - a chefnogwch fy ymgyrch newydd www.welshnot.co.uk
Hefyd, cofiwch anfon y rhybudd yma ymlaen at eich holl gyfeillion. Allwn ni ddim bod yn rhy ofalus.

Yn gywir
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC
Prif Weinidog Cymru

No comments:

Post a Comment