Croen ei dîn ar ei
dalcen: dim hwyl ar y person, drwg ei hwyl......
"Mae croen ei dîn ar ei dalcen heddi"
"Mae croen ei thîn ar ei thalcen"
Hefyd: "gwisgo ei dîn ar ei dalcen"
Fel bola buwch: yn
dywyll iawn
Mae #awrddaear ym Mynachlog-ddu yn debyg iawn i bob awr
arall yma. Mae hi wastad yn dywyll fel bola buwch 'ma!
Comedi ddu fel bola buwch
Nofel newydd Dewi Prysor. Trysor. Ydy e'n bosib marw o
chwerthin? Dieflig. Mor ddu a bola buwch.
Dychmygwch geisio cloddio glo wrth orwedd neu benlinio mewn
twnnel cyfyng oedd yn ddu fel bola buwch, a dim golau ond golau cannwyll.
No comments:
Post a Comment