Ceir yr erthygl wreiddiol ar Golwg360.
Mae
newyddiadurwyr Charlie Hebdo wedi mynnu y byddan nhw’n parhau â’u gwaith wrth i
gopïau diweddaraf y cylchgrawn dychanol gael eu hargraffu.
Dyma fydd
cyhoeddiad cyntaf y cylchgrawn ers i 12 aelod o’i staff gael eu lladd mewn
ymosodiadau brawychol ym Mharis yr wythnos diwethaf.
Dywedodd y
cylchgrawn y byddan nhw’n printio tair miliwn o gopïau’r wythnos hon, fydd yn
cynnwys cartŵn o’r proffwyd Mohammed ar y clawr.
Ond mae’r
clawr eisoes wedi cythruddo [poeni,
digio, dychryn] rhai Mwslemiaid, sydd wedi dweud bod parhau i gyhoeddi
delweddau o’r proffwyd yn sarhad i’w crefydd.
Mae rhai
gwasanaethau newyddion ym Mhrydain eisoes wedi cyhoeddi llun o’r clawr ond dyw
eraill, gan gynnwys Associated Press a Sky News, heb wneud.
Cyfieithu’r cylchgrawn
Bydd y copi
diweddaraf ar werth am bythefnos ac yn cael ei gyfieithu i Saesneg, Sbaeneg ac
Arabeg yn ogystal â chael ei chyhoeddi yn Ffrangeg.
Fel arfer
mae Charlie Hebdo yn argraffu tua 60,000 o gopïau bob wythnos, ond mae disgwyl
galw anferthol ar gyfer cyhoeddiad cyntaf y cylchgrawn ers yr ymosodiadau’r
wythnos diwethaf.
Bydd y clawr
yn dangos y proffwyd Mohammed gyda deigryn yn ei lygad ac yn dal arwydd sydd yn
dweud ‘Je suis Charlie’, y neges gafodd ei ddefnyddio ar wefannau cymdeithasol
i ddangos cydymdeimlad yn dilyn yr ymosodiadau.
Ar ben llun
y proffwyd mae geiriau yn dweud bod ‘popeth wedi ei faddau’, neges sydd yn
dweud bod y rheiny a oroesodd yr ymosodiadau wedi maddau i’r saethwyr, yn ôl un
o ysgrifenwyr y cylchgrawn.
Cynnwys heriol
Mae
cyhoeddiad diweddaraf Charlie Hebdo yn cynnwys llawer o’r cynnwys heriol y mae
hi yn adnabyddus amdani.
Yn ogystal
â’r clawr sydd yn dangos Mohammed, mae’r tudalennau cyntaf yn cynnwys cartwnau
rhai o’r staff gafodd eu lladd.
Mae’r golofn
olygyddol yn amddiffyn secwlariaeth a’r hawl i ddychanu crefyddau.
“Yn ystod yr
wythnos diwethaf mae Charlie, papur newydd anffyddiol, wedi cyflawni mwy o
wyrthiau na phob sant a phroffwyd gyda’i gilydd,” meddai’r cylchgrawn.
No comments:
Post a Comment