Diolch i Maes-e!
- · Glywes i foi o Gofi yn siarad wrth ryw ddwy ferch ac yn dweud: 'O, mae o'n hen ffasiwn... fatha jwg.'Lyfli.
- · "Mae o'n hen ffasiwn fatha beic" maen nhw'n ddweud ffor hyn.
- · Fi'n cofio bod reit embarasd pan ddwedodd mam-gu am ryw ddyn moel "Wel, odd ei ben e'n sheino fel ceille ci yn rhoul" (rhoul = yr haul)
- · Beth ydy ystyr 'Ma'i hanner o'n Chicago' ai 'ddim llawn llathen' ma'n feddwl?
- · "Dim llawn llathen" = "a sandwich short of a picnic" (neu beth bynnag ydio'n iawn)
- · Hefyd yn debyg i'r rhain --> "Gola 'mlaen, neb adra!" a "Bynglo!" (h.y. dim byd fyny grisia, 'mond insiwlêshyn...ond dwi'n ama mai rhyw idiom deuluol ydi hon, ac nac ydi hi'n un a glywir ar hyd a lled y wlad!)
- · Dwli ar "sheino fel pwrs milgi yn yr houl" a "ma' cro'n ei din ar ei dalcen e", fel ma' Sian wedi'u nodi.
- · "Ma' dy fola di'n gefen, odi e?" (h.y. llwgu, wyt ti?)
- · Da ni'n defnyddio hwn i olygu bod angen bwyta’n dda - fyddi di'n dibynnu arno i gael nerth - Bola yn gefen?
- · Fyddwn ni'n defnyddio hwn i gyfiawnhau byta lot/rhoi pwyse arno.... "O wel, daw bola'n gefen..."
- · Gas 'da fi hefyd pan ma pobol mewn oed yn rhoi'r compliment "jiw, ma gra'n arna ti" (graen) ,gan olygi bod ti wedi rhoi tipyn o bwyse mlan. :?
- · Rhywun arall wedi clywed bod "golwg sabant ar rywun"? - golwg gas - Sgwn i odi e'n dod o "sa bant" - h.y. aros yn ddigon pell, dw i ddim ishe dy weld ti.
No comments:
Post a Comment