1. Holl drigolion bro a
bryniau, dewch i wrando hyn o eiriau,
Fe gewch hanes rhyw hen
fochyn a fu farw yn dra sydyn.
Cytgan: O mor drwm yr
ydym ni(x2), y mae yma alar calon ar ôl
claddu’r mochyn du.
2. Fe rowd mwy o faidd
i’r mochyn n’allai fola bach e
dderbyn,
Ymhen chydig o
funude roedd y mochyn yn mynd adre.
(Cytgan)
3. Rhedodd Deio i
Lwyncelyn i mofyn Mati at y mochyn;
Dwedodd Mati wrtho’n
union gallai roi e heibio’n burion.
(yn burion = eitha da, gweddol)
(Cytgan)
4. Mofyn hers o
Aberteifi a cheffylau i’w thynnu fyny,
Y ceffylau yn llawn
mwrnin er mwyn dangos parch i’r mochyn.
(Cytgan))
5. Melys iawn yw cael
rhyw sleisen o gig mochyn gyda’r daten,
Ond yn awr rhaid byw
heb hwnnw, y mochyn du sydd wedi marw.
(Cytgan)
6. Bellach rydwyf yn
terfynu nawr gan roddi heibio canu;
Gan ddymuno peidiwch
dilyn siampl ddrwg wrth fwydo’r mochyn.
(Cytgan)
No comments:
Post a Comment