[Addasiad o erthygl wreiddiol yn Wicipedia]
Capel Celyn |
Pentref ger y Bala, Sir Feirionydd yng Nghymru a gafodd
ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl, Lloegr
oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan
gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn
perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.
Hanes
y boddi
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl
greu argae ddŵr yng Nghwm Tryweryn i gyflenwi dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y
prosiect werth £20 miliwn. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y
1880au yn nyffryn Efyrnwy. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un
awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un
aelod seneddol o Gymru o'i blaid.
Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol a
chafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke, y Gweinidog dros Addysg a
Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a
Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y
Fonesig Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor
Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones.
Arweiniodd Plaid Cymru y gwrthwynebiad i'r cynllun, gyda
Gwynfor Evans yn arwain dirprwyaeth [deputation] i gyfarfod Corfforaeth Lerpwl
gan roi anerchiad grymus. Roedd nifer o'r genhedlaeth ifanc yn siomedig serch
hynny nad oedd unrhyw weithredu uniongyrchol wedi bod ganddynt.
Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr
ymneilltuodd [=tynnu'n ôl] nifer o'u
haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu
defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd Emyr Llywelyn,
John Albert Jones ac Owain Williams.
Er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn y gronfa, cwblhawyd yr
adeiladu ym mis Awst 1965 a cafwyd seremoni agoriadol swyddogol iddi ym mis
Hydref yr un flwyddyn.
Ymosodiad Chwefror 1963
Roedd dechrau 1963 yn gyfnod o dywydd caled o eira a rhew
gyda'r ffyrdd yn anodd iawn i'w tramwy [= mynd a dod]. Roedd y gwaith o
adeiladu'r argae yn ei anterth. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar y gwaith
yn un uchelgeisiol iawn, ond fe newidiodd pethau pan ymunodd Emyr Llywelyn â'r
cynllun. Roedd e am i'r weithred fod yn un symbolaidd i'w gweld fel gweithred
wlatgarol yn hytrach nag un derfysgol.
Yr
ymateb
Canodd y beirdd llawer am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu
plith, Dafydd Iwan:
Mae argae ar
draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn
i'n llyfrdra ni;
Dyw'r werin
ddim digon o ddynion, bois,
I fynnu ei
rhyddid hi.
[llyfrdra = diffyg dewrder]
I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm
Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr iaith Gymraeg ei hun fel iaith
gymunedol fyw, yn enwedig yn y 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu
hiaith fynd yn sylweddol lai diolch i ymfudo i gael gwaith gan Gymry ifainc a
mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, gan amlaf yn Saeson di-Gymraeg. Mynegir
hyn gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd adnabyddus Tryweryn, a
gyhoeddwyd yn y gyfrol Cilmeri a cherddi eraill yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn y
1980au. Dyma'r pennill agoriadol:
Nid oes inni le i ddianc,
Nid un Tryweryn ein tranc,
Nid un cwm ond ein cymoedd,
O blwyf i blwyf heb na bloedd
Na ffws y troir yn ffosil
Nid un lle
ond ein holl hil.
Tranc - diwedd bywyd, marwolaeth
Cyfarwydd hefyd yw'r
gwpled cofiadwy o'r un gerdd,
Fesul tŷ nid fesul ton
Y daw'r môr dros dir Meirion.
Tryweryn
Heddiw
Yn 2005, 50 mlynedd wedi i'r argae gael ei chwblhau,
cafwyd ymddiheuriad swyddogol gan Gyngor Lerpwl, i drigolion y pentref a'r
ardal, a Chymru gyfan, am foddi'r pentref. Hefyd yn 2006, ailbeintwyd y slogan
enwog Cofiwch Dryweryn wedi iddo gael ei ddifrodi gan graffiti.
No comments:
Post a Comment