Diolch i Golwg360 am y ddau ddarn isod.
1. Mam milwr o Gymru'n amau gwerth y golled
Mae mam o Gymru a gollodd ei mab yn ymladd yn Afghanistan wedi mynegi amheuon am werth y brwydro yno.
Fe ddywedodd Sarah Evans y byddai meddwl bod ei mab, James
Prosser, wedi marw er lles yn gwneud y golled yn haws … ond doedd hi
ddim yn gallu meddwl felly.
“Dw i a’r mamau eraill yn gofyn pam ydyn ni wedi colli’r
bechgyn,” meddai ar raglen radio The World at One. “Alla i ddim gweld
fod pethau wedi gwella.”
Y cefndir
Roedd James Prosser yn 21 oed pan gafodd ei ladd bron union bum mlynedd yn ôl, ym mis Medi 2009.
Roedd yn gyrru cerbyd ymladd, Warrior, pan gafodd ei daro gan ffrwydryn yng ngogledd talaith Helmand.
Yn ôl ei fam, roedd wedi mynd i Afghanistan gan feddwl y
byddai’n gallu trawsnewid y lle er gwell ond doedd hi ddim yn gweld bod
hynny wedi digwydd.
Roedd James Prosser yn un o dri milwr o Gwmbran a gafodd eu lladd yn ystod yr ymladd. Roedd wedi ei eni yng Nghaerffili.
2. Afghanistan - gwleidyddion Cymru'n dadlau
Mae gwleidyddion Cymreig yn parhau i anghytuno tros y penderfyniad i
anfon milwyr i ymladd yn Afghanistan – a hynny wrth iddyn nhw adael y
wlad.
Mae un o brif wrthwynebwyr y rhyfel, AS Gorllewin Casnewydd,
Paul Flynn, wedi sôn eto am “y digwyddiadau dychrynllyd” yn Afghanistan.
Mae wedi cyhuddo gwleidyddion eraill o fod yn “ddoeth wrth
edrych yn ôl” wedi iddyn nhw anwybyddu rhybuddion bod y rhyfel yn
gamgymeriad.
‘Gwerth chweil’
Ond yn ôl aelod Llafur arall, a gefnogodd y rhyfel ac sy’n aelod
o’r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn yn San Steffan, roedd y cyfan wedi bod
yn werth chweil.
“Mae Afghanistan yn well lle ac mae Ewrop yn fwy diogel o
ganlyniad i’n gweithredoedd,” meddai Madeleine Moon, Aelod Seneddol
Pen-y-bont ar Ogwr, wrth Radio Wales.
Ar yr un rhaglen, roedd arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷr Cyffredin,
Elfyn Llwyd, yn mynnu ei fod yntau wedi bod yn gywir i bleidleisio yn
erbyn anfon y milwyr.
“Dw i ddim yn siŵr faint gwell yden ni heddiw,” meddai, gan
ddweud bod llawer o’r brawychwyr [= terrorists] oedd yn Afghanistan bellach wedi symud i
wledydd eraill yn y Dwyrain Canol.
Fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod wedi cadw at ei addewid i gael y milwyr yn ôl cyn 2015.
Mewn neges drydar, fe ddywedodd, “Byddwn wastad yn cofio dewrder
y rhai a wasanaethodd yn Afghanistan ar ein rhan a fyth yn anghofio'r
rhai a wnaeth yr aberth eitha’.”
Cabinet yn dadlau
Ond roedd aelodau o’r cabinet Llafur a wnaeth y penderfyniad yn anghytuno hefyd.
Roedd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, yn amau a
oedd yr hyn a enillwyd werth yr aberth tra oedd y cyn Ysgrifennydd
Tramor, Jack Straw, yn mynnu ei fod yn “rhyfel angenrheidiol”.
No comments:
Post a Comment