Diolch unwaith eto i Ffrwti am roi sbardun i sgwrs!
Falle
taw'r tro cyntaf i sylwi hynny (heb sylwi'n iawn ar y pryd chwaith)
oedd pan 'nes i darfu am Mam. Bydden i wedi bod byti chwech oed, ac am
ryw reswm yn chwilio Mam – fwy na thebyg roedd rhyw gêm ar goll neu
angen sortio rhyw gweryl rhwng Arwyn a fi - rhywbeth holl bwysig fel'na.
Roedd gyda ni 'stafell ffrynt – dim ond stafell gyda soffa doedden ni ddim yn defnyddio'n aml iawn. Ta beth, 'na ble oedd Mam a rhyw gylchgrawn a siocled yn ei llaw. O ngweld i ei geiriau oedd:
“'Sdim cwato dim byd oes e?!”
Cyn cynnig hansh o'i siocled i fi a dweud i beidio dweud wrth Arwyn.
Roedd pleser Mam newydd ddiflannu, ond fy un yn anferth – siocled heb ei ddisgwyl, a chyfrinach nad oedd Arwyn yn gwybod dim amdani!
Ar brynhawniau Sul bydden ni'n galw gyda Mam-gu, ac wrth adael bydden ni'n cael dewis siocled o'r dror. Byddai rhaid aros nes y Sadwrn wedyn, pan fyddai cinio yn frechdan a phecyn o losin neu siocled.
Yn ystod yr wythnos bydden ni'n cael siocled yn ein bocsys bwyd ambell ddiwrnod - ond rhywbeth fel Penguin, Club, Wagon Wheel, Viscount - mwy o fisged na siocled ar y cyfan. Felly roedd siocled dydd Sadwrn bach mwy arbennig.
Fel arfer rhywbeth fel Skittles neu Smarties, neu Milky Way Magic Stars, Fruit Pastilles fydden i'n dewis dros fariau o siocled. Felly ar brynhawn Sadwrn bydden i'n tynnu'r holl losin mas o'r pecyn, yn eu rhoi nhw mewn rhesi yn ol lliw neu'r wyneb bach ar y Magic Stars, ac yn eu bwyta mewn trefn beodol. Yn ol hoff flas neu hoff liw, neu weithaiu yn ôl faint o bob lliw oedd yna. Os mai Revels oedd gyda fi, trial bwyta'r rhai mwya diflas a chadw'r goreuon fydden i. Os Minstrels bydden i'ncnoi'r casyn caled gyntaf a doedd dim dal gyda Malteasers – cnoi y sicled i gyd bant neu grensian un cyfan, neu doddi un yn araf fydden i.
Nawr, siocled tywyll biau hi bob tro. Gorau po dywyllaf - mae unrhyw beth dan 70% yn rhy felys! Bron ei sugn fe fydda i'n gwneud, gadael iddo fe doddi'n araf i gael joio'r blas. Ac mae truffles bach Booja neu Hipo Hapus yn fwy na derbyniol. A'r arfer gyda nhw yw unai cnoi y siocled oddi, wedyn gadael i'r truffle doddi ar fy nhafod.
Fe wnes i ddechrau meddwl am hyn ar ôl gweld erthygl gan rywun arall yn disgrifio'i hareferion hi wrth fwyta siocled. Nes i fi ddechrau meddwl am siocled, ro'n i'n meddwl ei bod hi bach yn od – ond ni i gyd yn od yn ein ffordd....
No comments:
Post a Comment