Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 30 October 2014

Englynion Coffa Hedd Wyn gan R Williams Parry


Y bardd trwn dan bridd tramor, - y dwylaw                      trwn = teg (hynafol)
      Na ddidolir rhagor:                                                    didoli = rhannu, gwahanu
   Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
   Y llygaid na all agor.

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, - dy rawd                          rhawd = hanes
      Wedi ei rhedeg hefyd
   Daeth awr i fynd i'th weryd,                                          gweryd = pridd (bedd)
   A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno - tros fawnog                               mawnog = cors o fawn
      Trawsfynydd yn dringo;
   Tithau'n drist a than dy ro                                             gro = cerrig mân
   Ger y ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd!  Tros ei feini - trafaeliaist
      Ar foelydd Eryri;
   Troedio wnest ei rhedyn hi,                                         rhedyn = bracken
   Hunaist ymhell ohoni.



- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Gadair unig ei drig draw! - Ei dwyfraich,                         trig = 'dwelling'
      Fel pe'n difrif wrandaw,                                           
   Heddiw estyn yn ddistaw
   Mewn hedd hir am un ni ddaw.

2 comments:

  1. Mae hwn yn dod nol ac angofion o llen lefel O. Roedd hwn, Yr Arwr, Yr Llwynog a llu o barddoniaeth arall yn llyfr Furfiau’r Awen i’w ddysgu ac hunangofiant byr o pob bardd. Ac hefyd yn dod ar ol dathlu yn diweddar canrif y Ryfel Byd Cyntaf.

    ReplyDelete
  2. Mae hwn yn dod nol ac angofion astudio llen lefel O. Roedd hwn ac llu o i cerddi eraill fel Yr Arwr, Y Llwynog, Lewsyn yr Holier yn llyfr Furfiau’r Awen.

    Ddaw hefyd nol ac atgofion trist y penwythnos diweddar fel y ddathlwyd canrif ers gorfen Y Rhyfel Bad Cyntaf.

    ReplyDelete