(Erthygl wreiddiol ar safle Golwg360)
Dydd Iau, i gyd-fynd ag wythnos Iechyd Meddwl S4C fe fydda i’n cyfrannu at raglen Iselder: Un Cam ar y Tro.
Roedd siarad ar y rhaglen yn gyfle i mi geisio chwalu stigma a
rhannu fy mhrofiad. Bwgan hyll yw iselder. Mae’n effeithio un ym mhob
pedwar o’r boblogaeth. Ac eto, mae yna ddirgelwch mawr amdano a’i
effeithiau ar fywydau unigolion. Mae’r tawelwch sy’n amgylchynu [surround] iechyd
meddwl yn dawelwch byddarol [deafening].
Fis Medi diwethaf, fe wnes i ddioddef episod dwys o iselder.
Fe wyddwn i wrth fynd i’r gwaith un bore ddechrau Hydref bod rhaid i mi
weld meddyg y diwrnod hwnnw neu golli’r frwydr i oroesi fyddwn i.
Y diwrnod hwnnw, yn dilyn sgwrs gyda fy therapydd gwybyddol [cognitive] yn
y feddygfa leol, fe ges i’r gwely olaf yn uned iechyd meddwl Hergest,
Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roeddwn i yno yn derbyn gofal dwys am dri mis
gan staff oedd yn ceisio f’atal rhag terfynu fy mywyd fy hun. Peth
erchyll yw iselder pan fo’i grafangau yn gafael.
Deimlais i erioed ofn fel teimlais i’r noson gyntaf honno yn
Hergest pan oeddwn i’n eistedd ar wely fy ystafell sengl. Roedd gen i
lwyth o gwestiynau a dim atebion. Be’ oeddwn i’n dda yno? [=why was I there?] Pwy oedd fy
nghyd-gleifion? Pa mor hir fyddwn i yno? Oedd y bennod hon yn nodi
dechrau’r diwedd i mi ynteu ddechrau’r broses wella?
‘Brwydr’
Roedd fy nghyfnod i yn Hergest yn gyfnod tu hwnt o anodd.
Roedd yr awydd dwys oedd gen i derfynu fy mywyd fy hun yn gwneud pob
diwrnod yn frwydr heb ei hail. Roeddwn i hefyd yn wynebu heriau ar ôl
torri lawr yn emosiynol a seicolegol. Roeddwn i wedi dod i gredu pethau
ddigon rhyfedd, fel bod sebon yr uned yn adweithio [react] gyda meddyginiaethau
gwahanol gleifion i gadw rhai yn gaeth i’r uned am gyfnodau hirach.
Roedd meddyliau cyffredin wedi colli eu siâp a’r cyfan yn fy ngorfodi i
gwffio [cwffio - gair y gogledd = ymladd] brwydrau dyddiol dwys.
Fe dreuliais i dri mis gyda chleifion oedd yn dioddef pob math
o anhwylderau meddyliol fel anhwylder meddwl y ddau begwn [bipolar], iselder a
Schizophrenia. Roeddwn i’n gweld yr unig seicolegydd Cymraeg i oedolion
yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio gyda seiciatrydd hefyd.
Chwalu’r stigma
Un o’r sialensiau mwyaf am anhwylderau [disorders] meddyliol yw eu bod yn
gallu effeithio ar fywydau cleifion am gyfnodau eithaf hir. Gall
effeithio ar allu person i fyw bywyd cyffredin a gweithio. Roedd ambell
glaf yn gleifion tymhorol oedd yn derbyn gofal am episodau o anhwylderau
oedd yn eu heffeithio yn eithaf cyson. Roedd cleifion eraill, fel fi,
yn newydd i’r system a heb brofiad blaenorol o iselder. Ond, sut oedd
mynd ati i geisio dechrau chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl?
Fe ddechreuais i geisio chwalu’r tawelwch drwy drydar pytiau
achlysurol am fy mhrofiad yn yr uned a’r hyn yr oeddwn i yn ei wneud yn
ddyddiol. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth gan y cyhoedd yn anhygoel.
Cefais lawer un yn gyrru negeseuon o gefnogaeth ataf ac yn son ei bod yn
braf darllen yn agored am brofiadau iechyd meddwl. Cefais negeseuon gan
unigolion oedd wedi dioddef eu hunain hefyd, ond oedd wedi methu siarad
am y peth yn agored. Roedd derbyn y fath ymateb ar gyfnod mor dywyll
yn fy mywyd yn hynod galonnog.
Drwy gydol fy amser yn uned Hergest dysgais mor bwysig oedd
siarad a rhannu straeon, nid yn unig drwy drydar – ond siarad gyda
ffrindiau, teulu, cyd-gleifion a staff hefyd. Mae gan bobl a’u geiriau
allu arbennig, i godi pobl eraill pan fo’r tywyllwch mawr yn eu trechu [overpower].
Ond i hynny ddigwydd, mae’n rhaid i unigolion fod yn agored. Yn barod i
siarad. Mae siarad yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mewn ffordd
sydd nid yn unig yn llesol i gymdeithas ond i fywydau unigolion.
Braf gweld S4C yr wythnos hon yn mynd ati i chwalu’r tawelwch byddarol hwnnw.
Bydd Iselder: Un Cam ar y Tro yn cael ei darlledu nos Iau am 9.30yh ar S4C.
No comments:
Post a Comment