Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 11 May 2014

Y Wisg Gymreig

Erthygl wreiddiol ar wefan Amgueddfa Cymru yn fan hyn.

Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio [tarddu - derive] o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad [bygythiad - bygythio - bygwth].
 

Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais [pais - dilledyn y mae merch neu wraig yn ei  wisgo o dan sgert neu ffrog] wlanen resog [ac arno streipiau] a wisgid o dan goban [coban - mantell] neu wn [gŵn - gwisg hir] agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac [llac - llaes - loose] fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth.

Cerdyn post yn dangos merched o Solfach, de-orllewin Cymru, 1880-1900

Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820.

Bu'r Arglwyddes Llanofer, gwraig i un o feistri haearn Gwent, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.

Llun a dynnwyd yn Nolgellau, 1929, gan ffotograffydd y GWR

Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg, yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif.

A oes yna'r fath beth â chilt Cymreig?

 

Telynor llys Llanofer, 19eg ganrif


Er i Arglwyddes Llanofer greu gwisg unigryw i'w thelynor llys (gweler y ffotograff), nid oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn creu gwisg genedlaethol ar gyfer dynion. O achos hynny, nid oes gan ddynion Cymru wisg genedlaethol, er i rai yn ddiweddar geisio 'adfer' cilt Cymreig na fu mewn bodolaeth erioed!

Hyd yn oed yn yr Alban, mae tystiolaeth mai datblygiad cymharol ddiweddar yw'r cilt sy'n gyfarwydd inni heddiw. Byddai'r dynion yn draddodiadol yn gwisgo plad, wedi'i glymu â belt a'i daflu dros yr ysgwydd.

Siolau

Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg [accessory] fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.

Siol Paisley

Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain [cain - prydferth, hardd] gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu [gweu - weave] yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les [sider - darn o ddefnydd sy'n debyg i rwyd fain a chywrain] cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd [gwlan - lluosog] main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.

Cario babi mewn siol - "Welsh fashion"

Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl. Ceir darluniau yn portreadu
hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn.

No comments:

Post a Comment