Tarddle’r dechreuad. [tarddle - ffynhonnell - source]
Heigiau o bysgod
yn dawnsio’n loyw’n [gloyw - disglair, llachar]
y dyfnderoedd,
lluosogi’n y lli.
Ac yna
fe ddaeth yr olew.
Tagodd ffynhonnau’r dyfroedd.
Taflodd y dyn ar y lan
ddarnau o’i ddychymyg
llygredig [llygredig - corrupted, polluted]
iddo.
Poteli gweigion
o bop a gwenwyn
yn siglo.
Iwraniwm
ynghudd gan y genlli [genlli - cenlli - llif o ddŵr]
yn clincian angau [angau - marwolaeth]
i lawr y canrifoedd,
a dynion
yn gorfoleddu [gorfoleddu - bod yn falch, ymffrostio - exult]
ym marwolaeth y môr.
No comments:
Post a Comment