Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 20 March 2014

Y Môr gan Einir Jones (cefndir a dadansoddiad)

Diolch i'r BBC - Bitesize TGAU Llenyddiaeth Gymraeg 



JONES, EINIR

Bardd ac addasydd llyfrau plant. Ganed Einir Jones ym 1950 yn Sir Fôn a chafodd ei haddysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bellach mae’n byw yn Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, ac yn dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Enillodd ei cherddi delweddol cyfoethog Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1991.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Daeth Awst Daeth Nos (Cyhoeddiadau Barddas, 1991)
Gweld y Garreg Ateb (Gwasg Gwynedd, 1991)
Rhwng Dau (cyd. efo Edward Jones, Gwasg Pantycelyn, 1998)

Y Môr

Yn y gerdd hon yr hyn a wna’r bardd yw creu darlun [=llun] o’r ffordd yr ydym ni fel pobl yn dinistrio’r môr. Mae’r gerdd yn agor gyda darlun cadarnhaol, gobeithiol - dyma lle mae pob bywyd wedi dechrau:

"Bywyd."
"Tarddle’r dechreuad."

Aiff Einir Jones ymlaen i greu darlun hapus o bysgod yn nofio neu ddawnsio yn y môr. Mae bywyd yn dal i fynd yn ei flaen, ac mae popeth fel y dylai fod gyda’r pysgod yn:

"lluosogi’n y lli."

Ond yna mae pethau’n newid pan ddaw’r olew i lygru’r môr ac mae byd natur yn dioddef. Dyn sydd ar fai, yn taflu llygredd iddo, poteli a gwenwyn. Er fod pob math o sbwriel yn niweidiol i’r môr, mae’r

"Iwraniwm"
"ynghudd gan y genlli"

yn fwy peryglus fyth.

Down i wybod nad peryglu heddiw yn unig a wna’r llygredd, ond hefyd mae’n peryglu dyfodol byd natur:

"...clincian angau"
"i lawr y canrifoedd,"

Daw’r gerdd i ben gyda’r darlun annisgwyl o’r:

"...dynion"
"yn gorfoleddu"
"ym marwolaeth y môr."

Darlun yw hyn o’n hunanoldeb ni fel pobl, yn poeni dim ond amdanom ni ein hunain.

 Arddull                                                              [style]

Cyferbyniad                                                       [cyferbynnu = contrast]

tynnu sylw at wahaniaeth rhwng pethau drwy eu gosod ochr yn ochr

Hawlfraint © Gwerin (www.gwerin.com) 2005 - 2014. Cedwir pob hawl.
"Ac yna"
"fe ddaeth yr olew."

Wedi agor y gerdd yn obeithiol, a chreu darlun hyfryd o’r pysgod yn "dawnsio’n loyw," mae’r bardd yma’n cyferbynnu hyn yn llwyr gydag anobaith yr olew. Yr olew sy’n tagu pob bywyd yn y môr. Wedi agor mor obeithiol, mae’r cyferbyniad yn dod fel mwy o ergyd. [ergyd = blow]

Ansoddair

"dawnsio’n loyw"

Mae’r ansoddair yma’n ychwanegu at y darlun o’r pysgod gan ei fod yn cyfleu bywyd ar ei orau. Mae yma ddarlun llachar o’r pysgod, ac mae’n atgyfnerthu’r ferf dawnsio. Er mai yn y dyfnderoedd mae’r pysgod, mae’r ansoddair gloyw yn llwyddo i gyfleu eu cyflymder a’u bywiogrwydd.

[atgyfnerthu - rhoi nerth newydd i]

Brawddegau byrion

"Bywyd."
"Tarddle’r dechreuad."

Trwy gyfrwng y brawddegau byrion hyn, cawn ddarlun uniongyrchol o hyfrydwch a gobaith. Clywn gan y bardd fod y môr yn lle perffaith a glân, nid fel y môr a welwn yn nes ymlaen yn y gerdd.

Trosiad                                                               [trosiad - metaphor]

"yn clincian angau"
"i lawr y canrifoedd"

Trwy gyfrwng y trosiad hwn, mae’r bardd yn creu darlun o ddiwedd bywyd. Fel arfer, poteli sy’n clincian yn erbyn ei gilydd, ond mae’r clincian hwn lawer yn fwy marwol. Hefyd mae’r iwraniwm yn mynd i achosi marwolaeth am flynyddoedd i ddod.

Mesur

Penrhydd
Mewn cerdd benrhydd, nid oes odli rheolaidd.

Mae rhyddid gan y bardd i amrywio hyd y llinellau. Weithiau ceir llinellau hir, a thro arall rai byr. Mae’r bardd yn gallu defnyddio’r ffurf hon i roi rhyddid iddo ddweud beth yn union y mae eisiau.

No comments:

Post a Comment