Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bûm yn dy gusanu Lisa gêl
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.
[cêl - dirgel, cuddiedig]
Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.
[cowlad - coflaid - embrace]
[tydi - ti]
Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd
Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.
[rhodio - cerdded, mynd am dro]
[prudd - trist]
Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa lân.
[dôdd fel cwyr - melts like wax]
Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.
[danfon - hebrwng, cyd-deithio]
Hiraeth mawr am Lisa Lân.
Hiraeth mawr am Lisa Lân.
No comments:
Post a Comment