Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 24 March 2014

Llygredd y Môr

O wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Ydych chi wedi meddwl rywdro i ble mae’r rhan fwyaf o’r llygryddion sy’n cael eu harllwys i’r afonydd yn mynd?  Yr ateb yw’r môr.  Y môr yw tanc septig mwyaf dyn ac mae’n ddigon posib bod rhywfaint o’ch gwastraff chi’n cyrraedd yno nawr.

[arllwys - pour] 

Llygredd y môr – yr achosion

Mae llygryddion yn deillio o lawer o ffynonellau amrywiol – o orsafoedd trydan sy’n llosgi glo ac yn rhyddhau tunelli o fetelau trwm, i ffermydd ieir sy’n rhyddhau llawer iawn o amonia.

[deillio - cychwyn, llifo allan, tarddu]

Mae llygredd yn digwydd hefyd oherwydd y ffordd rydym yn defnyddio’r môr ei hun – yr enghraifft amlycaf yw cludo tanwydd a cholli olew i’r môr.

Gwyddom yn awr fod y carbon deuocsid a ryddheir gan ein ceir a’n tanau’n newid cyfansoddiad cemegol y moroedd, gan eu gwneud yn fwy asidaidd dros gyfnod o amser. Gallai hyn gael effaith aruthrol ar ecosystem y môr.

[aruthrol - anferth, syfrdanol]

Mae llygryddion soled, fel poteli plastig, yn cyrraedd y môr yn aml hefyd ac yn cael eu cludo o don i don cyn cael eu golchi i’r lan. Yn ôl un astudiaeth ddiweddar go brin bod traeth yn unman yn y byd heb ddarn o blastig wedi’i gynhyrchu gan ddyn arno. Yn y dyfodol pell, pan fydd y dyddodion traeth hyn wedi’u troi’n greigiau, efallai y bydd rhyw ddaearegwr yn adnabod y rhain fel y gorwel plastig/ hydrocarbon, pan ddefnyddiodd dyn mewn llai na mil o flynyddoedd holl hydrocarbonau’r ddaear.

[ dyddodion - dyddodyn - deposit(s)]

Effeithiau

Mae rhai cemegolion, er enghraifft, yn faetholion hanfodol, ond os yw eu crynodiadau’n cynyddu i fod yn llawer mwy na’u gwerthoedd naturiol, gallant droi’n llygryddion niweidiol.

[maetholion - maetholyn - nutrient(s)]
[crynodiad - concentration]

Mae nitrad, er enghraifft, yn faetholyn naturiol pwysig sy’n sail i fywyd gwyllt y môr. Fodd bynnag, mae gormod o nitrad yn golygu bod rhai planhigion yn tyfu’n gynt ac yn mynd yn gryfach na’i gilydd gan newid y cydbwysedd ecolegol.

Mae rhai systemau morol yn naturiol isel mewn maetholion ac mae angen inni eu rheoli er mwyn cynnal y cyflwr hwnnw.

Mae cemegolion eraill yn crynhoi yng nghyrff anifeiliaid dros gyfnod o amser a gallant effeithio ar eu gallu i fagu’n llwyddiannus. Mae’n dealltwriaeth ni heddiw o beryglon cemegolion unigol yn llawer mwy nag yr oedd yn y gorffennol, ond ni allwn fyth ddod i wybod am yr holl ffyrdd cymhleth y mae cemegolion yn rhyngweithio gydag amgylchedd y môr. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn monitro’r ysglyfaethwyr sydd ar ben y gadwyn fwyd er mwyn cael rhybudd cynnar o’r posibilrwydd bod cemegolion niweidiol yn crynhoi.

[ysglyfaethwr - predator]

Ymateb/addasu

Ers trychineb y Sea Empress yn 1996, pan lifodd olew i’r môr yn agos iawn at y glannau, mae llawer iawn o sylw wedi’i roi i lygredd olew yng Nghymru. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r llygryddion eraill, mae olew’n hawdd i’w weld a’i arogli. O ganlyniad, rydym yn llawer mwy parod yn awr i ymateb yn fuan ac yn effeithiol i achosion o lygredd olew. Mae’r Llywodraeth wedi datblygu Cynllun Wrth Gefn Cenedlaethol, ac rydym ninnau yn y Cyngor Cefn Gwlad wedi defnyddio’r Cynllun hwn er mwyn datblygu’n systemau ymateb ein hunain a sicrhau ein bod ninnau’n gallu chwarae ein rhan.

Fodd bynnag, yng nghyd-destun llygredd y môr, canolbwyntir yn bennaf ar atal yn hytrach nag ymateb. Ein nod yw atal mesur niweidiol o lygryddion rhag mynd i’r amgylchedd. Mae’r rheolyddion wedi gwella’n fawr yn y cyswllt hwn, ac mae’r sylw bellach yn cael ei roi nid yn gymaint i effeithiau angheuol, ond i effeithiau ar agweddau eraill, fel ffrwythlondeb.

[angheuol -  yn achosi marwolaeth]


Pwerau Newydd

Daeth Cyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd i rym yn Ebrill 2007. Bydd yn darparu mecanwaith er mwyn adfer cynefinoedd dynodedig sydd wedi’u difrodi gan lygredd a gall gosbi os oes esgeulustod neu fethiant i ddilyn trefniadau rheoli llygredd priodol mewn achosion o’r fath.

No comments:

Post a Comment