Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 11 March 2014

Robot newydd i roi hwb i'r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi heddiw bod y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn y Senedd.

O hyn allan mi fydd ymwelwyr i adeilad y Senedd yn cael eu croesawu gan y robot YPeredur5miliwn.
Prif swyddogaeth YPeredur5miliwn fydd cyfarch ymwelwyr yn Gymraeg. Cafodd YPeredur5milwin ei adeiladu gan Yr Athro Bartholomew Stuart o Brifysgol Bucks New, diolch i benderfyniad doeth a dewr y Gynhadledd Fawr i wario £1.5 miliwn ar y prosiect cyffrous.

[Peredur - cymeriad o chwedl arthuraidd Gymraeg yw Peredur. Mae'n cyfateb i Perceval.]

Meddai Yr Athro Bartholomew Stuart -
“YPeredur5miliwn is a very exciting project indeed. His central processing unit is an old Vantage 1962 radio and he has a vast vocabulary of eight words. Nothing like this has ever been attempted with a minority language before. It was difficult trying to set a lesser-used language into this advanced technology framework, but we are more than happy with the results.”
Wrth ymweld â’r Senedd, bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu gan YPeredur5miliwn gyda’r geiriau:
  • “Croeso”
  • “Hoffi coffi”
  • “Iechyd da”
  • “Senedd”
  • “Carwyn”
  • “Delifro”
Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones
“Dyma ddangos ein hymroddiad i’r Gymraeg, rydym yn dangos i’r byd ein bod yn fodlon gwario miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein Senedd genedlaethol.”
Ychwanegodd Edwina Hart, y gweinidog a chyfrifoldeb am yr economi a gwyddoniaeth:
“I don’t understand a bloody word he says”
Yn ystod seremoni dadorchuddio YPeredur5miliwn yn y Senedd, meddai Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn-lywydd y Cynulliad.
“Dyma osod ein Senedd o’r diwedd yng nghanol prif ffrwd senedd-dai Ewrop, mae’r datblygiad yma yn gosod bri ac anrhydedd ar y Gymraeg. Gwell fyddai gwario arian ar ddeg YPeredur5milwin nac ar un Comisiynydd Iaith.”

Diolch i Llywodraethcymru.org

No comments:

Post a Comment