Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 11 March 2014

Gwahardd cyfrif Twitter ffug ‘Llywodraeth Cymru’

Mae cyfrif Twitter ffug ar gyfer ‘Llywodraeth Cymru’ wedi cael ei wahardd gan y wefan gymdeithasol – ar ôl cwyn gan y sefydliad go iawn.

Mae’n ymddangos nad oedd Llywodraeth Cymru yn hapus â’r cyfrif ffug, oedd wedi bod yn trydar rhai o straeon gwefan www.llywodraethcymru.org sydd hefyd yn un ffug.

Gwefan iawn Llywodraeth Cymru yw www.wales.gov.uk/?lang=cy.

Roedd y cyfrif ffug yn cynnwys llun o logo Llywodraeth Cymru gydag wyneb y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwgu drosto.

[gwgu - edrych yn grac, tynnu'r aeliau at ei gilydd er mwyn mynegi anfodlonrwydd]

Yn y darn oedd yn disgrifio’r cyfrif Twitter roedd un gair yn unig – ‘Delifro’.

“Darparu gwybodaeth”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru – y corff swyddogol, hynny yw – wrth golwg360 eu bod nhw wedi “darparu gwybodaeth” i Twitter ynglŷn â’r cyfrif ffug.

Fe benderfynodd y wefan gymdeithasol atal y cyfrif yn sgil hynny oherwydd ei fod yn torri eu rheolau.
Fodd bynnag, mae’r wefan ffug yn dal i fodoli, gyda’r gweinyddwr yn dweud wrth golwg360 y byddai rhagor o ddiweddariadau’n ymddangos arno cyn hir.

Mae Twitter yn adnabyddus am gynnwys nifer o gyfrifon ffug neu ‘spoof’ o bobl enwog a sefydliadau, sydd yn aml yn trydar yn gellweirus ac yn gwneud hwyl ysgafn am eu pwnc.

[cellweirus - ffraeth, digrif, direidus  - jocular, facetious, witty]

Mae nifer bychan o’r rhain hyd yn oed yn llwyddo i ddenu mwy o ddilynwyr na’r unigolion a sefydliadau swyddogol y maen nhw’n ei ddynwared.

[dynwared - copïo, efelychu]

Diolch i Golwg 360

No comments:

Post a Comment