“Ddylai llyfrau ddim codi ofn ar neb; mi ddylen nhw fod yn ddoniol, yn gyffrous ac yn rhyfeddol.”
Dyma eiriau Roald Dahl, yr awdur hynod boblogaidd a aned yng
Nghaerdydd, ac ar wythnos Dathlu Darllen S4C bydd llond silff lyfrau o
raglenni ac eitemau yn adleisio neges yr awdur ar y Sianel.
Yn ystod wythnos Dathlu Darllen S4C, rhwng dydd Llun 3 Mawrth a dydd
Sul 9 Mawrth, bydd amserlen y Sianel yn cynnwys nifer fawr o raglenni,
ffilmiau ac eitemau, oll yn dathlu darllen.
Yr uchafbwynt fydd Diwrnod y Llyfr, sydd wedi ei osod yn daclus yn y canol Ddydd Iau 6 Mawrth.
Mae wythnos Dathlu Darllen S4C yn cael ei threfnu mewn partneriaeth
gyda Chyngor Llyfrau Cymru a BBC Radio Cymru wrth iddyn hwythau baratoi
amrywiaeth o eitemau a digwyddiadau yn ymwneud â darllen trwy gydol yr
wythnos.
Ar S4C bydd cyfuniad o raglenni gwych o’r archif a rhaglenni newydd
sbon yn rhoi sylw i rai o awduron gorau Cymru yn golygu y bydd rhywbeth
ar gyfer bob darllenwr brwd.
Ymhlith yr uchelfannau fydd portread ffilm o’r diweddar fardd Iwan
Llwyd, golwg o’r newydd ar y clasur i blant Teulu Bach Nantoer ac
ymweliad Bardd Plant Cymru Aneirin Karadog â phentref pwysig yn ein
llenyddiaeth plant.
Cawn olwg ar un o Gymry mawr yr ugeinfed ganrif nos Lun 3 Mawrth,
wrth i Ffion Hague fynd ar drywydd Kate Roberts, y wraig fusnes, wrth
iddi frwydro i sicrhau parhad Gwasg Gee ar Mamwlad: Kate Roberts. Yna nos Fercher 5 Mawrth bydd cyfle arall i glywed pa nofel enwog yw hoff nofel yr actores Ffion Dafis ar 6 Nofel: Ffion Dafis.
Yna ar S4C ddydd Iau 6 Mawrth, sef Diwrnod y Llyfr, byddwn yn ail-ymweld â Teulu Bach Nantoer, sydd bellach ar gael ar e-lyfr, wrth i Beti George fynd ar drywydd y nofel, yr awdur a’i darllenwyr.
Yna ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth cawn ein diddanu gan Y Rhwyd. Dyma ffilm sydd wedi ei selio ar nofel Caryl Lewis, ffilm lawn cynnwrf, rhyw, cynllwyn a thro annisgwyl ar y diwedd.
Yna ddydd Sul 9 Mawrth bydd S4C yn darlledu rhaglen newydd sbon fydd yn edrych ar fywyd a gwaith y bardd Iwan Llwyd. Ar Iwan Llwyd: Rhwng Gwên nos Sadwrn a gwg y Sul bydd cyfweliadau a ffilm archif unigryw o’r 90au, yn ogystal â chyfweliadau gyda nifer o ffrindiau a theulu’r bardd.
Yn dilyn y rhaglen honno bydd ailddarllediad o Afal Drwg Adda, drama-ddogfen dreiddgar yn ymdrin â bywyd a gwaith awdur ‘Un Nos Ola Leuad’, Caradog Prichard.
Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno hefyd yn twrio trwy
fyd y llyfrau yn nosweithiol ac yn dilyn Aneirin Karadog, Bardd Plant
Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr wrth iddo deithio i bentref arbennig iawn,
Pentre Bach.
Bydd plant a phobl ifanc yn dod yn rhan o’r hwyl hefyd. Bydd cyflwynwyr gwasanaeth Cyw S4C yn holi eu gwylwyr ifanc beth ydy eu hoff lyfr ac yn cynnal cystadleuaeth i ennill hamper llawn o lyfrau newydd!
Ac ar Stwnsh, gwasanaeth plant hyn S4C byddwn yn
cael cip olwg ar lyfr diweddara’r cyflwynydd Anni Llŷn, a bydd criw
Stwnsh hefyd yn holi’r gwesteion yn y stiwdio am eu hoff lyfr.
A chofiwch y gallwch chithau fod yn rhan o’r dathlu gan drydar eich
hoff lyfr neu awdur a defnyddio’r hashnod #dathludarllen, os medrwch chi
adael eich llyfr am eiliad wrth gwrs!
No comments:
Post a Comment