Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 13 February 2014

Beth yw Radio Beca?

Beth yw Radio Beca ?

Logo 
1 Beth yw Radio Beca?
 Gorsaf radio newydd ar gyfer gorllewin Cymru.

2 O le fydd Radio Beca’n darlledu?
O fast Blaenplwyf, Preseli a Charmel (Cross Hands). Ac ar y we, hefyd, wrth gwrs.

3 Yn Gymraeg?
Ie – o amser brecwast hyd at amser te yn ddi-stop. Gyda’r nos bydd rhaglenni Saesneg (a Pwyleg hefyd, falle) i helpu pobl ddi-Gymraeg ddysgu am le ma’ nhw’n byw.

4 Ble fydd stiwdios Radio Beca?
Bobman. Ym mhob rhan o’r tair sir. Ble bynnag ma’ bobol am gasglu gyda’i gilydd i greu rhaglenni neu i gyfrannu eitemau.

5 Ond ma’ rhaid cael stiwdio ar gyfer darlledu, ond-o’s-e?
Nago’s. Dim bellach. Mi fydd Radio Beca yn hyfforddi pobol yn eu cymdogaethau i ddefnyddio lap-top, i-phone neu i-pad ar gyfer creu rhaglenni yn lleol i’w darlledu ar draws tonfeddi Radio Beca.

6 Pwy yw Radio Beca?
Ni yw Radio Beca. Pawb a phob un sydd am fod yn rhan o’r fenter a’r cyffro. Fel ein neuaddau pentref rhywbeth y byddwn ni’n adeiladu ein hunain ar gyfer ni’n hunain fydd Radio Beca. Menter gydweithredol – yn llythrennol: ni (i gyd) yn gweithio gyda’n gilydd.

7 Fel siopau John Lewis?
Digon tebyg. Ma’ pawb sy’n gweithio yn y siopau yn berchen ar y cwmni. Ma’ nhw’n gweithio dros ei gilydd, yn yr un ffordd a mae aelodau clybiau ffermwyr ifainc yn gweithio dros ei gilydd. Mi fydd pawb sydd yn helpu adeiladu Radio Beca yn berchen ar Radio Beca. Byddwn ni gyd yn gweithio dros ein gilydd. Gyda’n gilydd byddwn yn cryfhau cymdogaethau’r Gymraeg.

8 Siwt alla’i helpu adeiladu Radio Beca?
Trwy dalu £100 a dod yn Aelod Sylfaenol – un o’r miloedd o aelodau ar draws siroedd y gorllewin fydd yn creu sylfaen Radio Beca. (Yn unigolyn, ar ran cymdeithas, cangen leol, clwb, capel neu eglwys neu fusnes)

9 Pryd alla’i wneud hynny?
Ar ddydd Gŵyl Dewi. Ymhob cymdogaeth ar draws y gorllewin mi fydd cyfle i unigolion, cymdeithasau, capeli, clybiau a busnesau dalu £100 a dod yn Aelod Sylfaenol. (Bydd posteri a chyhoeddiadau lleol yn eich cyfeirio at ble yn union mae ymaelodi yn eich hardal chi.)

10 Oes rhaid talu’r £100 yn un swm?
 Nago’s. Gallwch addo i dalu’r aelodaeth ar draws cyfres o fisoedd.

11 Fydda’i ar y’n ennill o gyfrannu £100?
Na fyddwch. Ddim yn eich poced. Ond mi fyddwch ar eich hennill o wybod i chi fod yn rhan o fenter sydd yn ein galluogi ni - pobol cefn gwlad y gorllewin - i sefyll, unwaith eto, ar ein traed y’n hunain. Nid edrych yn hiraethus tua’r gorffennol byddwn ni. Nid achwyn chwaith ond sefyll gyda’n gilydd. Gwneud rhywbeth gyda’n gilydd. Adeiladu’r dyfodol – gyda’n gilydd.

 RADIO BECA – nid eich radio chi. Ein radio NI

No comments:

Post a Comment