PEIDIWCH Â GALW FI'N GADEIRYDD
GALWCH FI'N GADAIR!
Uchelgais ambell
un yw ennill cadair
eisteddfod,
swyddogol neu genedlaethol,
awch arall cael
eisteddian mewn cadair
un siglo, nid
sigledig, ar derfyn dydd
a hynny ger
tanllwyth o ymddiddan,
ambell gadair sy'n urddasol foethus
fel Cadair Cadeirydd y Cyngor,
yn solet, suddog,
os nad esmwyth
bob tro, a beth am gadair Barnwr
un rymus ar y naw
uwch lol
daearolion?
Yn iau, ar ôl
symud i'r wlad
clywais am olchi
'cadeiriau'!
methu deall y byd
amaethu a'r dull
o esmwytháu da,
ar eu penliniau.
Ond ddoe, penderfynodd geneth
a fu fel myfi yn
darbwyllo'r byd
bod rhagor i
ferch na bod yn brennaidd,
ei bod AM fod yn
gadair,
a beth ellwch chi ei wneud
gyda sylw mor
wirion, ond
eistedd arni.
(Menna Elfyn)
awch - eiddgarwch (keenness, eagerness)
tanllwyth - tân mawr (a blazing fire)
ymddiddan - sgwrs
urddasol - yn llawn urddas (dignified, stately)
suddog - o suddo (sink)
ar y naw - ofnadwy (terribly, awfully)
iau - 'ifancach'
esmwytháu - to ease, smoothe
darbwyllo - perswadio
prennaidd - stiff, mor anhyblyg â darn o bren
No comments:
Post a Comment