Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 30 May 2013

Dangosaf iti Lendid gan Dafydd Rowlands





Dere, fy mab,
i weld rhesymau dy genhedlu,                            [cenhedlu - conceive, beget]
a deall paham y digwyddaist.
Dangosaf iti lendid yr anadl sydd ynot,             [glendid - beauty, fairness]
dangosaf iti’r byd 
sy’n erwau drud rhwng dy draed.                      [erw - acre]

Dere, fy mab,
dangosaf iti’r defaid sy’n cadw, mewn cusanau, y Gwryd yn gymen,  [gwryd - fathom]
                                                                                                                        [cymen - neat]
y fuwch a’r llo yng Nghefen Llan, 
bysedd-y-cŵn a chlychau’r gog,
a llaeth-y-gaseg ar glawdd yn Rhyd-y-fro;            [llaeth y gaseg -honeysuckle]

dangosaf iti sut mae llunio’n gain
chwibanogl o frigau’r sycamorwydd mawr             [chwibanogl - whistle, flute]
yng nghoed dihafal John Bifan,                                 [dihafal - peerless]
chwilio nythod ar lethrau’r Barli Bach, 
a nofio’n noeth yn yr afon;

dangosaf iti’r perthi tew
ar bwys ffarm Ifan a’r ficerdy llwyd,
lle mae’r mwyar yn lleng                                                 [lleng - legion]
a chnau y gastanwydden yn llonydd ar y llawr;           [llonydd - motionless]

dangosaf iti’r llusi’n drwch                                              [llus - bilberries]
ar dwmpathau mân y mwsog ar y mynydd;                [mwsog - moss]

dangosaf iti’r broga
yn lleithder y gwyll,                                                         [lleithder - dampness  gwyll- darkness]
ac olion gwaith dan y gwair;

dangosaf iti’r tŷ lle ganed Gwenallt.

Dere, fy mab,
yn llaw dy dad,
a dangosaf iti’r glendid
 sydd yn llygaid glas dy fam.
© Y Lolfa



Dafydd Rowlands

Roedd Dafydd Rowlands (25 Rhagfyr 1931 - 26 Ebrill 2001) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd, ac yn llenor. Ganwyd ym Mhontardawe. Gan adael y weinidogaeth aeth i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Y Garw ac yn 1968 fe'i penodwyd ar staff Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu sgriptiau i'r teledu. Enillodd y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972. Bu'n archdderwydd (Dafydd Rolant) o 1996 i 1999.

No comments:

Post a Comment