Garth Celyn
gan Gwilym Bowen Rhys
Yn ifanc yr oeddem yn un, a’n tadau
oedd yn gytun
Mai uno ein tiroedd oedd raid i
gadw’r heddwch ddi-baid.
Ffrainc leuadau i ffwrdd ond ffawd a
wnaeth i ni gwrdd
A thyngu i gadw yn daer rhwng
muriau’r eglwys yng Nghaer.
Tir Gwynedd a dyfodd yn gryf dan
drefn a chytgord ein ty,
Ond tyfodd y bylchau yn fwy gan adael
blas sur ar y clwyf.
I frwydr ar ol brwydr mewn llaid, o’r
celyn at elyn oedd rhaid
Ac oer oedd y gwely o hyd a Brewys yn
gynnes a chlyd.
Cytgan
Ond na i gadw at fy ngair
Fydda i’n yn ffyddlon fel y wawr.
Paid gwrando ar y si, paid mynd a’m
gadael i
A na i drio peidio gadael chdi i lawr,
A chadw’n daer a’m llygaid at y llawr.
Llinell o wyngregyn draeth o’r
ffenest lle roeddem yn gaeth
A Brewys a’r cwlwm yn cau, yn chwalu
y cariad rhwng dau.
Oer yw y marmor i mi heb weld y lloer
ar y lli,
A’r Fenai sy’n llifo gerllaw gan
rwygo Garth Celyn o’m llaw.
Cytgan
Oer yw y marmor i mi, heb weld y
lloer ar y lli.
Oer yw y marmor i m, heb weld y lloer
ar y lli.
Cytgan
No comments:
Post a Comment