Blynyddoedd cynnar
Roedd Siwan (Joan neu Joanna) yn ferch ordderch y brenin John o Loegr a merch lys o'r enw Clementia Pinel. Ni wyddys nemor ddim am ei mam, ond bu farw ar y 30 Mawrth, 1237.
Mae'n bosibl y ganed Siwan cyn i John briodi ei wraig gyntaf yn 1189, ond ni ellir fod yn sicr am hynny o gwbl am fod cyn lleied o dystiolaeth. Dim ond un cyfeiriad sydd at enw ei mam - os cywir y cofnod - a hynny yng Nghronicl Tewkesbury, sy'n cyfeirio ati fel "reginæ Clemenciæ" ('Y Frenhines Clementina').Treuliodd Siwan ei phlentyndod yn Ffrainc, yn ôl pob tebyg; cafodd ei hebryngu o Normandi er mwyn paratoi ar gyfer ei phriodas yn Rhagfyr 1203.
Gwraig a chynghorwraig
Priododd Lywelyn Fawr yn 1205. Mae'n bosibl nad oedd hi ond rhywle rhwng deng a phymtheg mlwydd oed, ond doedd hynny ddim yn beth anghyffredin yn yr oes honno. Priodas wleidyddol ydoedd, yn sêl ar y cytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a'r brenin John yn 1204. Ffrangeg Normanaidd fyddai iaith Siwan, am iddi gael ei magu yn Ffrainc ac am mai honno oedd iaith llys y cyfnod yn Ffrainc a Lloegr fel ei gilydd. Prin y byddai hi fedru llawer o Saesneg, os o gwbl, ond gellid tybio ei bod wedi dysgu Cymraeg ar ôl dod i fyw i Wynedd.
Chwaraeodd Siwan rôl bwysig yn y trafodaethau diplomyddol cyfrwng Llywelyn a John, er enghraifft, pan aeth i weld ei thad ar ran y tywysog yn 1211, a roddai gyngor buddiol iddo. Bu'n cynnal trafodaethau â'i hanner brawd Harri (Harri III) yn 1225, 1228 a 1232 yn ogystal.
Carwriaeth
Cafodd garwriaeth â Gwilym Brewys (William de Braose), arglwydd Normanaidd o Frycheiniog, yn 1230. Carcharwyd Siwan gan Lywelyn am flwyddyn (hynny yw, fe'i cadwyd dan wyliadwriaeth) fel cosb am hynny ac fe grogwyd Gwilym Brewys ganddo ar ôl ei ddal. Yn ôl traddodiad lleol, o flaen prif lys y tywysog yn Abergwyngregin y crogwyd Brewys, ond ceir traddodiad arall sy'n lleoli'r crogi yng Nghrogen, ger Y Bala. Cyfeiria Brut y Tywysogion at y digwyddiad ond heb nodi'r lleoliad. Gyrrod y weithred ias o ddychryn drwy Gymru, Lloegr a Ffrainc am fod un o 'flodau marchogion y Norman' wedi cael ei grogi yng ngolau dydd o flaen torf o bobl gyffredin. Mae'n arwyddocaol nad ymyrodd frenin Lloegr, cymaint oedd awdurdod Llywelyn Fawr.Cadwyd hanes carwriaeth Siwan a Gwilym Brewys ar gof gan y werin a cheir traddodiad a rhigwm amdano. Yn ôl yr hanes, crogwyd Gwilym heb wybod i Siwan. Daeth un o weision neu filwyr y tywysog ati yn ei stafell a gofyn iddi,
-
- Dicyn, docyn, gwraig Llywelyn,
- Beth a roi di am weled Gwilym?
-
- Cymru, Lloegr a Llywelyn
- A rown i gyd am weled Gwilym.
Mae'r hanesyn am berthynas Siwan â Gwilym Brewys yn sail i ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis, Siwan.
Cymodi
O fewn tua blwyddyn fe ymddengys ei bod wedi cymodi'n llwyr â Llywelyn. Cynghorodd ei gŵr yn 1232 a bu'n llysgennad iddo eto yn llys ei frawd, Harri III yn Llundain.Bu farw Siwan yn llys Abergwyngregin (Garth Celyn) ar 22 Chwefror 1237. Sefydlodd ei gŵr fynachlog er cof amdani yn Llan-faes ar Ynys Môn, mewn golwg dros Afon Menai o'r llys yn Aber. Claddwyd hi mewn urddas gan Lywelyn ym Mhriordy Llan-faes.
Heddiw mae arch garreg Siwan gyda'i delw arni i'w gweld yn eglwys Biwmaris ar yr ynys. Cafodd ei symud yno yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol. Ceir plac uwchben yr arch yn rhoi ei hanes.
(Erthygl o Wicipedia)
No comments:
Post a Comment