Mae Comisiynydd y Gymraeg
wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid gwneud ymchwil cyn gynted â phosib
i'r syniad o greu rhanbarthau penodol fyddai'n gadarnleoedd i'r iaith
Gymraeg, tebyg i ardal y Gaeltacht yn Iwerddon.
Wrth siarad â rhaglen Taro 9, dywedodd Meri Huws, ei bod yn cytuno "bod angen i ni edrych yn gloi ar y math yma o fodel".
"Dwi ddim wedi cael fy mherswadio ar hyn o bryd.
"Ond mae eisiau i ni wneud ymchwil penodol iawn, ac yn gloi
iawn, i edrych ar be fydde' Gaeltacht yn edrych fel pe bai'r model yna'n
cael ei drosglwyddo i Gymru."
Yn gynharach yn y mis, galwodd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price am sefydlu un awdurdod rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru.
Un awdurdod?
Ond mewn cyfweliad â rhaglen BBC Cymru Taro 9, aeth Mr Price
gam ymhellach, trwy ddweud y dylai rhanbarth o'r fath gynnwys pob un o
gadarnleoedd y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.
"Mae angen creu awdurdod rhanbarthol ar gyfer y bröydd
Cymraeg.....yn lle ad-drefnu'r gogledd a'r gorllewin ar wahân yn y
bröydd Cymreig, gadewch i ni gymryd y cyfle hwn nawr i greu un awdurdod
ar hyd Bae Ceredigion i uno'r ardaloedd Cymreig a chreu awdurdod cryf
gyda phwerau cynllunio iaith a hefyd datblygu economaidd," meddai.
Byddai'r syniad yn debyg i ranbarth y Gaeltacht - ardal
benodedig o Iwerddon, ble mae'r Wyddeleg yn cael ei chefnogi gan gyfres o
fesurau i sicrhau ei pharhad fel iaith gymunedol fyw.
Aeth rhaglen Taro 9 i Orllewin Iwerddon i weld a fyddai modd i
Gymru ddysgu gwersi o'r strategaeth hon, yn enwedig yng nghadarnleoedd
yr iaith yn y gogledd a'r gorllewin.
Mae Gwyneth Ui Ghaora, yn wreiddiol o Gymru, yn byw yng nghanol Connemara ac yn dysgu arlunio trwy gyfrwng y Wyddeleg.
Dywedodd ei fod wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae'r ardal wedi'i gael ar yr iaith.
"Mae'r Wyddeleg yn yr ysgolion yn ddiamod, a does dim
cwestiynau am hynny o gwbl...Dyma sy'n beth cadarnhaol ynglŷn â chael
ardal sydd wedi'i dynodi yn ardal ar gyfer yr iaith," meddai.
"Bydde'r gefnogaeth fydde 'Cymraegtacht' yn ei roi i'r iaith yn beth cadarnhaol iawn."
Fe siaradodd Taro 9 hefyd â Seán Ó Cuirreáin, Comisiynydd y Wyddeleg, a ddywedodd:
"Dwi'n credu bod rhai agweddau positif wedi digwydd ar hyd y
blynyddoedd, sydd wedi cadw'r Wyddeleg yn fyw fel iaith gymunedol yma yn
y Gaeltacht...Efallai fydde hi ddim wedi goroesi heb y statws hynny."
Mae Taro Naw ar gael ar iPlayer yn fan hyn.
Mae Taro Naw ar gael ar iPlayer yn fan hyn.
(Diolch i BBC Cymru)
No comments:
Post a Comment