Mae
cyn Aelod Seneddol wedi awgrymu creu un cyngor rhanbarthol ar gyfer y
gorllewin, wrth i ddyfodol cymunedau Cymraeg gael ei drafod mewn
cynhadledd yng Nghaernarfon ddydd Gwener.
Un o'r siaradwyr yn y gynhadledd yw Adam Price, cyn aelod
seneddol Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, sy'n awgrymu uno
broydd Cymraeg y gorllewin dan ofal un cyngor mawr.
Bydd Leighton Andrews AC, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am
yr iaith Gymraeg, yn annerch y digwyddiad - sy'n cael ei gynnal gan
bartneriaeth 'Hunaniaith' yn Galeri, Caernarfon.
Cafodd y gynhadledd ei threfnu yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r
cyfrifiad a oedd yn dangos fod canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers
2001, gan amlygu fod y degawd nesaf yn gyfnod allweddol i ddyfodol yr
iaith.
Pwrpas y digwyddiad yw trafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar sefyllfa'r iaith Gymraeg.
Ymhlith y materion dan sylw mae ymrwymiad Llywodraethol a
deddfwriaethol, addysg Gymraeg a dwyieithog, cyfleoedd economaidd, tai a
defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol.
Mewn cyfweliad ar y Post Cynta
fore Gwener, awgrymodd Adam Price bod 'na achos dros sefydlu un awdurdod
rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru, ac y byddai hynny'n hwb i'r iaith
a'r economi yn yr ardaloedd hynny.
Meddai: "Mae angen strategaeth sy'n adfywio'r iaith ond mae
angen strategaeth sy'n adfywio'r economi...yr unig ffordd i adfer yr
iaith yn y gorllewin yw i adfer yr economi yn y pendraw.
Ychwanegodd ei bod yn anorfod y byddai awurdodau lleol yn
cael eu had-drefnu o fewn y pum mlynedd nesa' a bod angen manteisio ar
hynny o ran hybu'r iaith Gymraeg.
"Be' hoffwn i weld ydy defnyddio'r cyfle euraid hwn i uno'r
broydd Cymraeg ar hyd y gorllewin, o Benllech i Borth Tywyn, a chreu un
awdurdod rhanbarthol grymus ar gyfer y gorllewin. Cyngor fydd yn gallu
mynd â'r maen i'r wal," meddai Mr Price.
Cafodd y gynhadledd ddydd Gwener ei threfnu gan bartneriaeth Hunaniaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd
a chynrychiolydd Hunaniaith: "Sefydlwyd Hunaniaith yn 2009 fel
partneriaeth strategol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng Ngwynedd.
"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i glywed siaradwyr blaenllaw
ar lefel Cymru ac ar lefel ryngwladol yn cyflwyno strategaethau a
syniadau amgen ar gyfer cynllunio iaith."
(Diolch i'r BBC)
No comments:
Post a Comment