Cymru yn
Bencampwyr
Cododd Cymru dlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn gêm
fythgofiadwy yn erbyn Lloegr ar Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.
Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill
y gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi crasfa
go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r diwedd ac er
mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn coch yn well na’r
ymwelwyr o dros Glawdd Offa.
Hanner Cyntaf
Rheolodd Cymru o’r eiliad gyntaf ac fe roddodd blaenwyr
Cymru wers go iawn i’r Saeson yn y sgrym ac yn ardal y dacl. Daeth ciciau cosb
o ganlyniad a throsodd Leigh Halfpenny ddwy yn yr ugain munud cyntaf.
Hanerodd Owen Farrell y bwlch i Loegr pan ddyfarnwyd cic
gosb braidd yn hallt yn erbyn Sam Warburton hanner ffordd trwy’r hanner, ond
dim ond Cymru oedd ynddi wedyn.
Enillodd sgrym y Cochion gic gosb arall yn fuan wedyn ac
adferodd Halfpenny y chwe phwynt o fantais cyn i Farrell fethu ei ail gynnig
yntau cyn yr egwyl.
Ail Hanner
Os oedd Cymru yn dda yn yr hanner cyntaf roeddynt yn well yn
yr ail ac fe ddaeth tri phwynt arall o droed Halfpenny yn dilyn cyfnod hir hir
o bwyso gan y blaenwyr yn nau ar hugain Lloegr ar ddechrau’r ail gyfnod.
Gyda’r bwlch o wyth wedi ei sefydlu am y tro cyntaf yn y gêm
fe newidiodd Cymru i gêr arall a daeth y cais agoriadol toc cyn yr awr. Dwynodd
Ken Owens y meddiant yng nghanol y cae a lledwyd y bêl yn gyflym i Cuthbert ar
yr asgell, cafwyd ymdrech chwerthinllyd i’w daclo ef gan Mike Brown a chroesodd
y cawr yn y gornel.
Methodd Halfpenny y trosiad ond felly hefyd Farrell yn y pen
arall gyda chynnig am gic gosb ar yr awr.
Deg Pwynt Mewn Dau Funud
Yna, sicrhawyd y fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth gyda deg
pwynt mewn dau funud tua chwarter awr o’r diwedd.
Trodd Dan Biggar y pwysau’n bwyntiau gyda gôl adlam i
ddechrau cyn i Cuthbert groesi am ei ail gais. Yr asgellwr yn sgorio eto ond
chwaraeodd y rheng ôl i gyd eu rhan. Dechreuodd Toby Faletau y gwaith da cyn i
Sam Warburton ennill tir, yna cafwyd rhediad gwych a dwylo da gan Justin
Tipuric cyn i Cuthbert groesi.
Trosodd Halfpenny cyn i Biggar ychwanegu tri phwynt arall yn
y deg munud olaf i sicrhau buddugoliaeth o saith pwynt ar hugain, buddugoliaeth
fwyaf Cymru dros Loegr erioed!
Ond yn bwysicach na hynny, buddugoliaeth sydd yn sicrhau
pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Ymateb
Mike Phillips:
“Ymdrech arbennig
gan y bois heddi’. Ma’n neis maeddu Lloegr. Roedden ni’n gwylio’u gêm nhw yn
erbyn yr Eidal ac yn teimlo eu bod nhw yn dangos diffyg parch, ac roedden ni’n
gwybod bod yr Eidal yn dîm da…”
“Mae lot o bwysau ar y bois a dyw rhai pobl ddim yn sylweddoli
pa mor anodd yw hi. Ry’n ni wedi bod yn anlwcus iawn ond ry’n ni gyd yn rhoi
100% pan ni ar y ca’.”
Stuart Lancaster, prif hyfforddwr Lloegr:
“Fe chwaraeodd Cymru’n dda a wnaethom ni ddim. Wnaethom ni
ddim efelychu eu hymdrech gorfforol nhw. Mae hi’n gêm syml yn y bôn ac roedden
nhw’n fwy corfforol na ni.”
2. "Ennill y Bencampwriaeth eleni yn well na’r Gamp Lawn llynedd”
Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru wedi canmol perfformiad y chwaraewyr yn erbyn y Saeson ddoe gan honni fod ad-ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn well canlyniad na hyd yn oed ennill y Gamp Lawn llynedd.
Mewn gêm fythgofiadwy ar Stadiwm y Mileniwm, fe wnaeth Cymru guro Lloegr o 30 i 3.
Roedd Rob Howley ar ben ei ddigon yn dilyn y gêm yn enwedig o gofio bod Cymru wedi colli eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon.
“Mae hyn yn well na’r Gamp Lawn llynedd. Roeddyn ni’n rhagorol,”
meddai Howley. “Mae cyflawni yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud ar ôl yr
hyn ddigwyddodd yn ystod y munudau cyntaf yna yn erbyn Iwerddon yn
wyrdroad gwych.”
Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill y
gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi
crasfa go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r
diwedd ac er mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn
coch yn well na’r ymwelwyr o dros Glawdd Offa.
(Diolch i Golwg 360)
Newyddion da am unwaith! |
No comments:
Post a Comment