Mae fferm wynt fawr ar fryniau yn Sir Gaerfyrddin yn cael mynd yn ei
blaen ar ôl cael sêl bendith yr Ysgrifennydd Ynni yn Llundain.
Mae cais RWE Npower Renewables ar gyfer Gorllewin Brechfa yn
cynnwys 28 tyrbein hyd at 145 metr o uchder. Cafodd ei gyfeirio at Ed
Davey gan ei fod yn brosiect sy’n fwy na 50MW o bŵer, a chynllun y cwmni
yw cynhyrchu rhwng 56 a 84MW.
Roedd yr Arolygiaeth Gynllunio wedi argymell fod yr Ysgrifennydd
Ynni yn cymeradwyo’r cais, tra’n cydnabod y byddai’n cael “effaith
niweidiol ar yr olygfa a’r tirwedd.”
Dywed Ed Davey fod cymeradwyo’r fferm wynt ym Mrechfa yn
cyd-fynd gyda’r “angen cenedlaethol am ddatblygiadau newydd ar gyfer
cynhyrchu trydan.”
Gorllewin Fforest Brechfa
Mae fferm wynt wedi ei lleoli ar dir sy’n berchen i’r Comisiwn
Coedwigaeth ac wedi ei dynodi’n addas ar gyfer codi ffermydd gwynt gan
Lywodraeth Cymru.
Mae eisoes 10 o drybini yn yr ardal, ger pentref Gwyddgrug, ac
ym mis Tachwedd gwrthododd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin gais dadleuol i
godi 21 o felinau gwynt ar dir comin ger Llanllwni, yn yr un ardal.
Roedd y cais hwnnw yn is na’r trothwy o 50MW ac felly ni chafodd ei drosglwyddo i Lywodraeth Prydain.
Mae Grŵp Blaengwen, sy’n gwrthwynebu codi ffermydd gwynt yn yr
ardal, wedi galw am adolygiad o bolisi TAN 8 sy’n dynodi bod rhai
ardaloedd yng Nghymru yn addas ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr.
Gwneud cais am adolygiad barnwrol
Mae cadeirydd Grŵp Blaengwen sy’n ymgyrchu yn erbyn melinau ar
fynydd Llanllwni a Brechfa wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu apelio yn
erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Ynni.
Dywedodd Steve Dubé: “Bydd gan yr Adran Ynni a’r cwmni gyllid
mawr gan fod cymaint o arian yn y fantol yma, a byddan nhw’n medru
cyflogi’r cyfreithwyr gorau.
“Mae cost gwneud apêl yn anghredadwy, ond rydym ni’n benderfynol o gyflwyno apêl.
“Nid yw’r penderfyniad heddiw yn ddim i wneud gydag ynni – arian yw popeth.
“Mae’n drueni ofnadwy. Mae gan Gymru aur, copr, llechi, glo, dŵr
a nawr gwynt ac mae’r cyfan wedi ei reibio dros yr oesau a’r elw wedi
gadael Cymru.”
‘Sgandal’
Ychwanegodd Steve Dubé: “Cymru yw’r wlad gyfoethocaf ym Mhrydain
o ran adnoddau naturiol ac ynni gwynt yw’r sgandal mwyaf rwyf i wedi
profi,” meddai.
“Roedd cyfeiriadau lu at ecoleg a’r amgylchedd yn adroddiad yr
Ysgrifennydd Ynni a phrin unrhyw gyfeiriad at bobol. Mae’r melinau yma’n
creu sŵn, yn cael effaith ar allu pobol i gysgu, hyd yn oed yn niweidio
hearing aid un o ffermwyr y mynydd yma.
“Does dim syniad gan y bobol yma beth maen nhw’n delio gyda.
“Yn anffodus does dim ffydd gen i y byddai’r penderfyniad wedi bod yn wahanol petai’n cael ei wneud yng Nghaerdydd.
“Babi Carwyn Jones yw TAN 8 ers pan oedd yn Weinidog Amaeth.”
(Diolch i Golwg360)
No comments:
Post a Comment