Roeddwn wedi hanner-disgwyl i'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch
priodasau cyfunrywiol fod yn agosach, felly roedd yn braf gweld cydraddoldeb yn curo rhagfarn yn rhwydd, o 400 i 175.
Yn ddigalon, fe bleidleisiodd mwyafrif o'r aelodau Ceidwadol, a phob un
o'r saith Cymreig, y ffordd anghywir. Ymunodd Paul Murphy a Dai Harvard
o'r Blaid Lafur Cymreig â hwy hefyd. Rhag eu cywilydd. Gallwn ond
obeithio eu bod yn sylweddoli bod yr oes yn prysur newid, ac eu bod ar
ochr anghywir hanes. Bydd cymdeithas y dyfodol yn ffieiddio at y sawl a
bleidleisiodd "na" heddiw, yn union fel yr ydym ninnau'n rhyfeddu o
edrych yn ôl ar hilgwn y gorffennol. Dylwn fod wedi dysgu peidio disgwyl
gwell gan rai o'n haelodau etholedig erbyn hyn, ond fe ddefnyddiodd un,
yn gwbl ddi-eironi, yr hen ystrydeb plentynnaidd a thwp hwnnw am "Adam ac Eve, not Adam and Steve".
Fe ddywedodd sawl un arall bod y mater yn un "cymhleth" a bod angen
pwyllo cyn gwneud newidiadau mor sylweddol. Y gwirionedd, wrth gwrs, yw
bod hyn i gyd yn eithriadol o syml. Dull o ffug-barchuso rhagfarn yw
dadleuon felly.
Dim ond megis dechrau yw heddiw, wrth gwrs. Mae llawer mwy o "graffu"
i'w wneud, a bydd yn ddifyr gweld sut aiff pethau yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Ond mae pleidlais heddiw'n hanesyddol, ac mae pethau'n edrych yn addawol
iawn.
Fel dyn heterorywiol sy'n priodi ei ddarpar-wraig fis nesaf, rwy'n falch
iawn o hynny. Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod cyfreithloni priodasau
cyfunrywiol yn peryglu priodas ei hun fel cysyniad, fel petai teuluoedd
heterorywiol ledled Prydain am chwalu'n deilchion o ganlyniad (na, nid
wyf innau'n deall sut chwaith). Noder, gyda llaw, bod llawer iawn o'r
aelodau seneddol gwrthwynebus wedi godinebu yn y gorffennol, a bod sawl
un ar ei ail neu drydedd wraig. Ond beth bynnag, y gwrthwyneb sy'n wir
os rywbeth: rwy'n credu bydd fy mhriodas yn golygu mwy fyth o wybod nad
oes carfan gyfan o gymdeithas yn cael eu gwahardd rhag mwynhau'r un
breintiau.
(O Anffyddiaeth gan Dylan Llŷr)
No comments:
Post a Comment