Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 20 February 2013

Tafodiaith y Cardis - Blog Newydd

Mae Christine Cwmere wedi dechrau blog newydd sy'n dogfennu tafodiaith ei mam. Dyma Christine yn ei geiriau ei hunan:

Bwriad hyn o flog yw nodi ar gof a chadw y dafodiaith gyfoethog rwy’ wedi cael y fraint o gael fy magu ynddi. Nid yw mam – sy’n cael ei hadnabod wrth sawl enw (Christina Cwmere, Christina Hughes, Christina Morgans, Christina Blaenfallen) – wedi symud yn bell erioed. Fe’i ganed ar fferm yn ardal Cribyn adeg yr Ail Ryfel Byd, symudodd gyda’r teulu i fferm Cwmere rhwng Felinfach a Temple Bar pan oedd yn 15 oed, ac wedyn wedi priodi yn 1975, symudodd i dop Dyffryn Aeron. Ac yn bendant, mae ganddi dafodiaith arbennig iawn. Mae ei thafodiaith a’i geirfa wedi bod yn benbleth i rai o’m ffrindiau (yn enwedig o’r gogledd!) a gan fod un ffrind wedi galw’i thafodiaith yn “Cwmereg”, dyma ddechrau nodi rhai o’r termau a’r brawddegau lliwgar y mae’n eu defnyddio. Efallai y bydd ambell air yn gyfarwydd i sawl Cardi, eraill yn hollol ddiarth! Ac felly, gobeithio y bydd y blog hwn yn help wrth i fi geisio cadw’r dafodiaith yn fyw ac yn iach i’r oesoedd a ddêl.

Dyma i chi ddwy enghraiftt oddi ar y blog:


10. -en

Nid gair penodol sydd gen i y tro ‘ma, yn hytrach y talfyriad “-en” i eiriau.

Pan yn cyfeirio at ambell enw benywaidd unigol, bydd mam yn hwpo “-en” ar ei ddiwedd – e.e. sosejen, weetabixen, welsh cêcen. Yn ogystal, pan yn cyfeirio at fwy nac un, bydd mam yn dweud pethe fel “cymer ddwy weetabixen”, “wyt ti ise tair sosejen i swper?”, a.y.b.

9. Sgaram

Galwodd Rob a fi ddoe i weld Wncwl Bryn. Mae e a’r teulu yn dal i fyw yn Cwmere, ac fel brawd mawr i mam, mae’n naturiol ei fod e hefyd yn siarad iaith “Cwmereg”!

Roedd e’n adrodd straeon o’i arhosiad mewn ysbyty yn ddiweddar, a soniodd am “sgaram o fenyw” a fu ymhlith y rhai fu’n ei drin. Gorfod i fi chwerthin, achos roeddwn i’n gallu clywed mam – a mam-gu o ran hynny – yn disgrifio rhywun fel sgaram.

Holes i mam beth yw ystyr sgaram, ac yn syth dyma hi’n dweud “sgaram o fenyw”. Mae’n amlwg felly nad yw dyn yn gallu bod yn sgaram!! Ges i ymhelaethiad, bod sgaram o fenyw yn golygu “menyw fowr”.
Ro’n i wedi cymryd y byddai sgaram yn gyfystyr â swigw, ond na; maint corff menyw sy’n ei gwneud yn sgaram, tra bod swigw i’w wneud ag ymddygiad.

Ac efallai ei bod hi’n werth dweud gair am swigw.

e.e. “Hen swigw o fenyw oedd gwraig y plas” … “odd dim ise i honna bipo lawr arnon ni, y swigw â hi”
Sgaram = menyw fawr
Swigw = menyw gas, annymunol, fras.

No comments:

Post a Comment