- ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
Mae
Stonewall yn annog cefnogwyr i gysylltu ag Aelodau Seneddol heddiw
Wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi'r Bil Priodasau (Cyplau o'r un Rhyw) o’r
diwedd, i gyflwyno priodasau cyfartal, mae Stonewall wedi annog cefnogwyr yng
Nghymru a Lloegr i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol yn galw arnynt i
gefnogi’r mesur pan fydd yn cael ei drafod ar 5 Chwefror. Canfu arolwg gan
Ipsos Mori ym mis Rhagfyr fod 73 y cant o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau
cyfartal, ond mae Stonewall wedi rhybuddio cefnogwyr yn erbyn cael agwedd
hunanfodlon, ac wedi annog pobl strêt i ymuno yn yr ymgyrch dros gydraddoldeb
hefyd.
Roedd canlyniadau arolwg YouGov ar gyfer adroddiad Byw Gyda’n Gilydd Stonewall y llynedd hefyd yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, gan gynnwys tri o bob pump o bobl â ffydd a dros 80 y cant o bobl o dan 50 oed.
Dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill: ‘Yn anffodus, mae’r nifer fechan o bobl sy’n erbyn priodasau cyfartal yn defnyddio celwyddau a sïon hyll i ddadlau yn erbyn hynny. Ni ddylai’r rhai sy’n cefnogi’r mesur syml hwn adael i’r lleiafrif croch atal cydraddoldeb. Rhaid i bobl ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol, anfon neges trydar neu e-bost atynt neu eu ffonio i ofyn am eu cefnogaeth cyn dadl Ail Ddarlleniad y Bil ar 5 Chwefror.
‘Rydyn ni angen i bobl strêt sydd â ffrindiau neu berthnasau sy’n lesbiaid neu’n hoywon sefyll dros eu hawliau hefyd. Mae cydraddoldeb o fudd i bawb, a dyna pam ein bod ni’n gofyn i bawb sy’n cefnogi’r bil annog eu Haelodau Seneddol i bleidleisio o’i blaid. Neges syml sydd gennym. ‘Os gwyddoch am unrhyw reswm, rhaid i chwi ei fynegi yn awr.’
diwedd.
(Erthygl o wefan Stonewall Cymru)
2. Priodas hoyw: cyflwyno llythyr yn
gwrthwynebu i’r Prif Weinidog
Bydd
cynrychiolwyr ugain o gadeiryddion Cymdeithasau’r Blaid Geidwadol yn mynd â
llythyr yn gwrthwynebu priodas rhwng hoywon i 10 Downing Street yn ystod y
dydd.
Yn ôl y
llythyr mae nhw yn pryderu am sgîl effeithiau’r bleidlais yr wythnos nesaf yn
Nhy’r Cyffredin i roi’r hawl i gyplau hoyw briodi.
Dywed y
llythyr bod y cadeiryddion “yn poeni os y caiff y mesur ei droi’n ddeddf, bydd
hyn yn arwain at niwed sylweddol i’r Blaid Geidwadol yn y cyfnod sy’n arwain at
yr etholiad cyffredinol yn 2015.”
Mae’r
llythyr hefyd yn dweud bod nifer sylweddol eisioes wedi ymddiswyddo o’r blaid
oherwydd eu gwrthwynebiad i’r mesur gan ychwanegu bod y nifer yma yn debygol o
gynyddu.
Yn y
cyfamser, mae papur y Sunday Telegraph yn proffwydo y bydd tua 180 o
aelodau seneddol Ceidwadol, gan gynnwys pedwar aelod o’r Cabonet. yn
pleidleisio yn erbyn y cynllun.
(Diolch i Golwg360)
3. Pryderon offeiriaid tros briodasau hoyw
Mae tros
1,000 o offeiriaid wedi arwyddo llythyr yn lleisio eu pryderon ynglyn â’r modd
y bydd priodasau hoyw yn bygwth rhyddid crefyddol – ac y gallai hyd yn oed
arwain at rai Pabyddion yn cael eu heithrio o swyddi.
Yn y
llythyr, sydd wedi’i gyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw, mae’r
offeiriaid yn honni fod priodasau rhwng unigolion o’r un rhyw yn bygwth cyfyngu
ar ryddid crefyddol yn yr un ffordd ag y gwnaed yn ystod y canrifoedd o erlid
Catholigion yn Lloegr.
Mae’r
llythyr wedi ei arwyddo gan 1054 o offeiriaid, 13 o esgobion, abadau a
chlerigwyr Pabyddol. Mae’n dadlau y gallai’r weithred syml o drafod eu ffydd,
gael ei chyfyngu’n aruthrol.
(Diolch i Golwg360)
No comments:
Post a Comment