Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 29 March 2018

Rhyfel a heddwch (4) - Waldo Williams


Roedd Waldo Williams yn heddychwr [pacifist]  yn grynwr [Quaker], yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd mwyaf Cymru'r ugeinfed ganrif (30 Medi 1904 – 20 Mai 1971). Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.

 

Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i J Edwal Williams, athro ysgolion cynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch John Jenkins, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.

Yr oedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn 1915 daeth ei dad yn brifathro ar Yagol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu yn aelodau yn eglwys y Bedyddwyr [baptists] Blaenconin lle yr oedd y Parch T J Michael yn weinidog ac yn heddychwr arall. Mynychodd [mynychu - attend] Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 1926. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau [studies] Allanol, Coleg y Brifysgol Aberystwyth.

Priododd yn 1941, ond bu hi farw yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith [= ail waith].

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol [conscientious objector] yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhyddhawyd [rhyddhau = release] ef yn ddiamod [unconditionally] yn dilyn ei ddatganiad [declaration] ger bron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.

Yr oedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd [carcharu - to imprison] am hynny ddechrau y 1960au. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth Mohandas Gandhi ar y llenor Rabindranath Tagore pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i D.J. Williams "Yr oeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol [hypocritical] ac yn annioddefol [intolerable] heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.

Mae carreg goffa [memorial] i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.

 

Yn 2008 cyhoeddwyd nifer o gerddi Saesneg y bardd, cyfieithiadau o sonedau T. H. Parry-Williams ar www.barddoniaeth.com.

Y Tangnefeddwyr

Uwch yr eira, wybren ros, 
[wybren - sky]
Lle mae Abertawe'n fflam.
Cerddaf adref yn y nos,
Af dan gofio 'nhad a 'mam.
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,
gwyn eu byd [blessed]
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
Ni châi enllib, ni châi llaid
[enllib - slander] [llaid - mud, dirt]
Roddi troed o fewn i'w tre.
[rhoddi - rhoi]
Chwiliai 'mam am air o blaid

Pechaduriaid mwya'r lle.
[scoundrels]
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw,

Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Angel y cartrefi tlawd

Roes i 'nhad y deuberl drud:
[roes - that gave] [deuberl - two pearls]
Cennad dyn yw bod yn frawd,
 [cennad - mission]
Golud Duw yw'r anwel fyd.

 [golud - wealth, riches] [anwel - invisible]
Gwyn eu byd tu hwnt i glyw. 

Tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Cenedl dda a chenedl ddrwg -

Dysgent hwy mai rhith yw hyn,
[dysgent - they taught] [rhith - spectre]
Ond goleuni Crist a ddwg
[dwg from dwyn, here: to bring]
Ryddid i bob dyn a'i myn.
[myn - mynnu: insist]
Gwyn eu byd, daw dydd a'u clyw,

Dangnefeddwyr, plant i Dduw.

Pa beth heno, eu hystâd,
[ystâd - estate]
Heno pan fo'r byd yn fflam?

Mae Gwirionedd gyda 'nhad
[gwirionedd - truth]
Mae Maddeuant gyda 'mam.
[maddeuant - forgiveness]
Gwyn ei byd yr oes a'u clyw, 

Dangnefeddwyr, plant i Dduw.

No comments:

Post a Comment