Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 29 March 2018

Rhyfel a heddwch (2): Hedd Wyn

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 - 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
 
Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn Yr Ysgwrn, fferm ei dad. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn Ne Cymru.

Barddonai o'i lencyndod [llencyndod - adolescence (llanc)] a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i awdl "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn Llanuwchllyn yn 1913, Pwllheli yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a Phontardawe yn 1915. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac englynion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20 Awst, 1910.

Yr Ysgwrn


Aeth yn filwr yn 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn Ionawr 1917. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd [catrawd - regiment] ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem, rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres (Fflemeg: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw [Birkenhead] 1917 am ei awdl "Yr Arwr". Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 pan oedd yntau yng Ngwlad Belg. Ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw "Fleur-de-lis" oedd yn deilwng o [teilwng o = worthy of] ennill y gadair. Fodd bynnag roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel "Eisteddfod y Gadair Ddu".

Yn eironig ddigon, gwnaed y gadair gan ffoadur [refugee] o'r enw Eugeen Vanfleteren a hannai [hanfod - issue from, come from] o Wlad Belg. Treuliodd gyfnod o chwe mis yn ei chynhyrchu a cheir arni amrywiaeth o symbolau Celtaidd a Chymreig. Daethpwyd a'r gadair yn ôl i Drawsfynydd ar y trên ar 13 Medi, 1917 a chludwyd [cludo - transport, carry] hi i'r Ysgwrn ar gart a cheffyl.

Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran.

                   Rhyfel
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ol mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.
Mae'r hen delynau genid gynt,
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw

gwae - woe     dreng - harsh, grim
ar drai - ebb    teyrn - monarch, tyrant  gwreng - common man
hell - feminine form of hyll [salw]

myned = mynd   ymaith - i ffwrdd
cyfododd = cododd   cledd - sword

genid - that were played
ynghrog - hanging [crogi]


odli - to rhyme
cynghanedd

No comments:

Post a Comment