Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday, 29 March 2018

Rhyfel a heddwch (1) - Brwydr y Preselau

Adolygiad Gwyn Griffiths o Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn (erthygl o wefan y BBC). 

Mwynhad arbennig fu darllen Brwydr y Preselau gan Hefin Wyn - hanes ymdrech pobol yr ardal unigryw honno i achub 60,000 erw o diroedd rhag eu cipio [snatch] gan y Swyddfa Ryfel.
Brwydr a barhaodd o 1946 hyd 1948.

Clawr y llyfr Gwyddom am yr hyn a ddigwyddodd i Epynt a'r modd y dinistriwyd ardal Gymraeg ei hiaith ac y symudwyd teuluoedd lawer o'u cartrefi.

Ond ni wyddom hanes y frwydr i achub calon Gogledd Sir Benfro, hwyrach oherwydd - yn wahanol i Epynt a Thryweryn - mai 'ni' enillodd yn yr achos hwn!

Ymladdodd preswylwyr y Preselau frwydr gyfrwys [crafty, cunning, subtle] ddigyfaddawd  [uncompromising] yn erbyn holl rym [grym = pwer] ac adnoddau y Swyddfa Ryfel.

Fel y sgrifennodd Waldo Williams yn ei gerdd Preseli ar y pryd: "Mae rhu, mae rhaib drwy'r fforest ddiffenestr, [rhu = roar, rhaib = greed, rapacity]
Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw."

Bu ymateb chwim [agile, nimble] a phendant y trigolion i'r newydd fod y Swyddfa Ryfel yn llygadu mynyddoedd y Preseli yn arwyddocaol [significant] yn yr hanes cynhyrfus [exciting, moving] hwn.

Taranu yn erbyn

Trannoeth i'r stori ymddangos yn y Western Mail yr oedd y Cynghorydd Mathias Davies, gweinidog Capel y Gelli, Llawhaden, a Horeb, Maenclochog, ar ei draed yn taranu yn erbyn cynllun yng Nghyngor Sir Benfro gan sicrhau gwrthwynebiad ei gyd-aelodau.

Ymhen dim o dro yr oedd Pwyllgor Diogelu'r Preselau wedi ei ffurfio gyda Mathias Davies, yn enedigol o Solfach, yn gadeirydd.

Diddorol gweld cynifer o weinidogion ar flaen y gad [battle] - dynion fel y Bedyddiwr [Baptist] R Parri Roberts, Bethel, Mynachlog-ddu, cenedlaetholwr a heddychwr gwargam [stooping], tanbaid [fiery, hot-blooded] o Fodedern [Bodedern = pentref yn Ynys Môn].

Un arall oedd y Parch Joseph James, gweinidog gyda'r Annibynwyr ym Methesda, Llawhaden, a Phisgah, Llandysilio, ond yn frodor o Ddowlais.

Yn ogystal â bod yn 'bregethwyr mawr' roedd y tri hyn yn arweinyddion yn eu cylchoedd hefyd; yn ddynion a digon o hyder i ymladd y frwydr ar eu tir ar eu telerau [terms] nhw eu hunain - nid ar dir y gelyn.

Gweddi

Adroddir y stori, sy'n rhan o chwedloniaeth [chwedl = legend] y fro, am gynrychiolwyr [cynrychioli = to represent] y Swyddfa Ryfel yn dod i gyfarfod â'r trigolion ym Maenclochog.

Ac wrth i un o'r swyddogion milwrol ddechrau ar ei ffregod [chatter] torrodd Joseph James ar ei draws gyda'r geiriau, "Gadewch i ni weddïo ..." a galw ar Parri Roberts i arwain.

Yn ôl yr hanes bu'r weithred seml hon - mewn iaith oedd yn ddieithr iddynt - yn fodd i fwrw cynrychiolwyr y Swyddfa Ryfel oddi ar eu hechel [axle - i.e. throw them off balance].

A phan ddechreuodd y swyddogion milwrol ddadlau mai tir sâl [here: barren] oedd dan sylw yr oedd Parri Roberts yn ei dro yn annog Joseph James i ddweud wrthyn nhw mai "magu eneidiau" [souls] oedden nhw'n wneud ar lechweddau'r Preseli.

Ar bob ffrynt

Ymladdwyd y frwydr ar bob ffrynt posib - y perygl o ddifwyno'r cronfeydd [contaminate reservoirs] dŵr oedd yn diwallu [darparu, supply] trefi Hwlffordd ac Aberdaugleddau; y cyfoeth henebion [monuments] a chysylltiadau'r fro gyda Chôr y Cewri [Stonehenge], y Mabinogi a chwedlau Arthur; y bywyd gwyllt; y ffaith fod cynllun ar droed i roi statws Parc Cenedlaethol i'r ardal; yr iaith a'r diwylliant; Dewi a'r seintiau a'r cysylltiadau â Thyddewi ...

Cadwyd y storm i fynd gyda llythyron ac erthyglau i'r wasg ac yn ôl Hefin Wyn y cyntaf i ymateb i'r newydd oedd D J Williams, Abergwaun, un o'r tri roes dân i'r ysgol fomio ym Mhenyberth [Ar yr 8fed o Fedi 1936, aeth y darlithydd Saunders Lewis, yr athro D J Williams a'r gweinidog Lewis Valentine i'r safle ym Mhenyberth liw nos a rhoi peth o'r deunydd adeiladu ar dân. Aethant at yr awdurdodau wedyn i gyfaddef i'w gweithred o brotest symbolaidd. Maes o law, wedi dau achos llys, fe garcharwyd 'Y Tri' fel y cawsant eu hadnabod wedyn] .

Mewn llythyron yn y Western Mail a'r papurau lleol galwodd am ddefnyddio "bob dull moesol [moral] ac ysbrydol" i ymladd.

Dywed Hefin Wyn i DJ fod yn procio'n ddyfal [procio = to poke] ar y cyrrau [i.e. stirring things up from the fringes]ond heb fod yn or-amlwg .

Yr oedd yr hen gadno'n gyfrwys [cunning] iawn, oherwydd er ei fod yn annwyl iawn yng ngolwg llawer o'i gyd Gymry nid pawb yng nghyffiniau Abergwaun edrychai arno fel arwr cenedl.

Ac os oedd yna garfan [group, squad] sylweddol o weinidogion oedd yn bopeth yn ardaloedd y Preselau, roedd y prifathrawon lleol yn amlwg yn y frwydr - neb yn fwy na Titus Lewis, Maenclochog, ddewiswyd yn ysgrifennydd y Pwyllgor Diogelu.

Papurau lleol

Clywais fod Hefin Wyn yn gofidio [afflict, grieve, regret] iddo droi'n hwyr yn y dydd at y pwnc hwn a bod nifer fawr o'r rhai brofodd ferw'r frwydr [those who tried to bring the battle to the boil] wedi marw cyn iddo gael y cyfle i'w holi ond y mae yna ddywediad Saesneg i'r perwyl mai [here, to the effect that] "newyddiaduraeth yw drafft cyntaf hanes" a chafodd yntau gloddfa [quarry,mine] werthfawr o wybodaeth mewn papurau lleol fel y County Echo, Abergwaun, y Tivyside and District Advertizer yn Aberteifi, y Western Telegraph yn Hwlffordd ac uwchlaw pobun, y Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News, argraffiad o'r West Wales Weekly Observer, Dinbych-y -pysgod.

Mae'n amlwg bod y golygydd [editor], Glyn Walters, yn ogystal â gohebwyr eraill y Weekly News gant y cant y tu cefn i frwydr trigolion y Preselau i gadw'u hetifeddiaeth [heritage].

Er, yn rhyfedd braidd, ni cheir yn y gyfrol gyfeiriad o gwbl at bapur arall tref Hwlffordd, y West Wales Guardian.

Gwelwn fod diddordeb mawr gan Y Cymro yn y frwydr yn ogystal â Baner ac Amserau Cymru lle bu Saunders Lewis a Kate Roberts yn annog a chefnogi.

Ffynonellau eraill y gwaith clodwiw [commendable] hwn yw dogfennau swyddogol y Llywodraeth a chofnodion y Pwyllgor Amddiffyn a ddiogelwyd gan deulu Titus Lewis.

Darlun o gymdeithas

Wrth gloddio [dig. mine] yn y papurau lleol, gwelir bod Hefin Wyn wedi'i hudo [entranced] gan straeon eraill yn y papurau, adroddiadau am achosion llys, eira mawr 1947, cyfarfodydd cystadleuol, eisteddfodau, dramâu, Cymanfaoedd Canu ac ati ac ar un olwg gellid tybio eu bod yno i besgi [fatten] rhywfaint ar y gyfrol ond maent hwythau yn cyfrannu at greu darlun o gymdeithas wledig, ddiwylliedig [cultured], ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, yn ddibynnol ar ei hadnoddau ei hun am ddifyrrwch [amusement, diversion].

Yn ystod cyfnod byr yn gweithio yn yr ardal, cefais gyfarfod amryw o'r bobol y cyfeirir atynt yn y gyfrol - yn arbennig Parri Roberts a Titus Lewis.

Hefyd y cyn Arolygwr Ysgolion, Caleb Rees, un arall o arweinwyr y Pwyllgor Amddiffyn, gŵr a aned yn Esgairordd, ger Crymych, ond a oedd erbyn hynny wedi ymddeol i Dalacharn, ac yr oeddwn yn adnabod y prifathrawon a enwir bob un.

Stori gyffrous

Melys, hefyd, yw gweld enwau nifer o bobol ifanc y deuthum [des i] i'w hadnabod yn dda ddechrau'r Chwedegau - a gwerth nodi fod gan y Parch Parri Roberts un ferch ychwanegol i'r rhestr o'i blant yn y gyfrol, sef Morfudd.

Cofiaf y tro diwethaf i mi i'w chyfarfod mewn Cymanfa Ganu yn un o gapeli Cymraeg Llundain tua 1971.

Dyma, yn wir, stori i gynhyrfu'r [stir, excite] gwaed y dylem fel cenedl ymfalchïo ynddi.

No comments:

Post a Comment