Ar drothwy’r Brifwyl, mae’r ferch off y teli wedi ysgrifennu
canllaw i ferched Cymru ar sut i adnabod dynion dawnus, a’r rhai llai medrus
hefyd…mae ei thesis yn seiliedig ar drip diweddar i Sioe Frenhinol yr
Amaethwyr…
Shelffo neu ar y shelff…..?
Roedd y pedwar diwrnod ‘na ’di cyrraedd.
Y pedwar diwrnod sydd ‘da ffermwyr Cymru i wasgaru eu holl
spesamins amaethyddol ar hyd merched Cymru.
Wrth sefyll ym mhabell y members, edryches i o ’nghwmpas a
gweld dau gategori o ddynion.
Y ‘shelffwyr’ a’r rheini ‘ar y shelff’.
Bydde chi’n meddwl taw oedran oedd y prif wahanieth – ond,
nage wir. Ma’ shelffwyr o bob oedran i ga’l. Yn amlwg ma’ gyda chi’r rheini yn
eu harddege sy’ ‘na yn eu t-shirts YFC, a llun pidlen mewn lipstic ar eu talcen
a staen seidr a blac dros eu shorts newydd o’dd mam ‘di prynu iddyn nhw o sêl
Peacocks cyn iddyn nhw fynd.
I ‘weud gwir, ma’ nhw’n ddigon diniwed, os nagich chi’n
meidio gorfod gwylio nhw’n llyfu gwyneb rhyw ferch yn y gornel tra’n trio byta
byrgyr a pisho r’un pryd…
Gyda llaw, sôn am grysau-t YFC, un o’n hôff bethe i yn
yr ŵyl oedd darllen y slogans ar gefn y cryse-t. Ma’ nhw’n mynd yn waeth – ond
eto’n well – bob blwyddyn. Yr un dynnodd y’n sylw i ‘leni (a fi ddim yn gwbod
ai oherwydd bod tua 50 ohonyn nhw’n gwisgo fe, neu oherwydd pa mor ‘glyfar’ odd
y slogan….) oedd - ‘I hope you’ve got pet insurance… ar y blaen, a
‘because I’m going to destroy your pussy’ ar y cefn….. sdim lot yn
secsiach na ‘na oes e?
Os ydych chi’n ferch sy’ wedi cwmpo am y crys-t yma, fi’n
argymell dwrnod i chi’ch hunan, yn iste mewn capel tywyll damp, yn gwrando ar
‘Dod ar fy mhen’ drosodd a throsodd, er mwyn i chi ystyried trywydd eich bywyd.
A’r math arall…
Y math arall o ‘shelffwr’ yr oeddech chi’n ca’l yn stelcian
o amgylch y members oedd y ‘sleimers’. Chi’n gwbo, rheini ‘da lliw haul, un eyebrow
sy’n codi a sgidie call ar gyfer yr achlysur, rheini sy’n rhoi ‘i llaw ar
waelod ych cefn tra’n gweud – ‘ie… shwt i ti de calon’ a wedyn chi’n
gweld e’n cropian mas o rw garafan am 7:30 yn gwisgo specs haul a’n anadlu ar
‘i law er mwyn asesu’r sefyllfa ‘da’r anal.
As in ‘anadl’ mewn acen Sir Geredigion….
Gosh, sa i’n gw’bod pa shelffwr sy’ waetha.
Baw isa’r
domen
Wedyn ma’ ‘da chi
rheini ar y shelff. Rheini â’u siwmperi ‘di clymu rownd ‘u canol. Â
dau gorn bach piws tywyll yn codi oddi ar ‘u gwefusau o ganlyniad i yfed 70
peint o seidr a blac mewn dwy awr.
Nhw yw’r rhai
sy’n stelcian ffwrdd ar ben eu hunen hanner ffordd drwy’r noson i gal jumbo
sosej a can o vimto, cyn dod nol i floeddio canu ‘I am the one and only…..’ cyn
trio fe mlân ‘da merch ifanc feddw mewn hotpants…. Methiant… Y ferch yna odd yn
ysgol ‘da fe odd arfer bod yn hot ond nawr sy di cal tri o blant
…methiant…..cyn setlo am un o ffrindie ei fam sy newydd ga’l ysgariad….
Felly, ferched hynod lwcus Cymru, beth yw hi fod?
Falle bod angen dechre ysgol, yn debyg i Lanaethwy ond i
fechgyn ifanc… Gwersi fflirto o’r radd uchaf…. Athrawon megis Chiz, Bryn
Fôn, Dewi Pws…. hmm
Beth bynnag, shelffwr neu beidio, os i chi’n gadel Builth
‘da ffarmyrs tan, mwd dan eich gwinnedd a hici, chi ‘di joio’ch hunen. Hwre i Hambons weda i.
Ma dau o’r tri da
fi….
Lisa ‘ar y shelf’
Angharad
No comments:
Post a Comment