Mae Mrs Jones Rhif 1 yn trydar......
Cwyno am bopeth - sdim byd arall i wneud dyddie 'ma ers colli'r gwr. Ethon ni i G'rdydd i weld y rygbi yn '99 golles i fe ar Queen St ac heb ei weld ers hynny.
Neis gweld cymaint o ferched sy'n canu yn yr Wyl Gerdd Dant yn cefnogi Movember. #mynyffachi #gcd2012
Cerdd Dant a rygbi drwyr dydd ar S4C - diolch i Dduw am - Strictly a'r X Factor heno!
Ro'dd y rhaglen dathlu 30yrs S4C yn warthus. Sen i
ishe clywed barn pobol gyffredin ar bethe ar y teli elen i'r Feathers ar
nos Wener!
Dafydd a Caryl yn dringo 5 copa? Word to the wise -
Dafydd tria golli hi ar ben un ohonyn nhw - ei llais yn mynd ar nerfau
fi.Sbwylo'n Alpen!
Prynhawn Da yn dangos i ni shwt ma' fframio llun yn
iawn - os na allwch chi fframio llun dyle chi fod mewn home! #smonigydyndwp
Shortlist rhaglenni gore S4C ers 30 yrs - sen i ddim
yn dewis un o nhw! Bacha hi o ma? Cyw Haul? Nyth Cacwn? Na'r goreuon?
Bugger me!!
Yn watcho 'Heno' ar S4C yn y prynhawn - Jiw - ody
Sian Thomas gorfod bod mor irritating? Pam ma' hi's siarad fel gog?
o jiw - newydd watcho golygfa rhwng Sion White a Gwyneth ar Pobol Y Cwm - crogwch fi nawr!!! #amdram #mynyffachi
Ishe rhywun i ddweud wrth Gerallt ar 'Heno' i dyfu lan a phrynu crys llewish hir! #mynyffachi
Son am Cefn Gwlad - ody Dai Jones Llanilar yn cario llo neu jyst blydi tew yw e? #mynyffachi
Anodd dweud os yw'r gyfres 'ma o Cefn Gwlad ar es 4 c
yn repeat neu beidio - pob un gwmws run peth ag erioed!
Cwpwl gay ar Sion a Sian heno - jiw ma'r oes di
newid. Byddan nhw'n cael cyflwynydd gay nesa! Cofiwch ro'dd Dai Llanilar
yn itha camp!
Lot o ffys am The Valleys - ma fe'n fwy realistic na
Pobol Y Cwm.... wedi dweud 'ny ma Sooty & Sweep yn fwy realistic na
Pobol Y Cwm!!
Jonathan Ross yn cael Olympians a ser Hollywood - Tudur Owen yn cael dou blydi ffarmwr pointless! #mynyffachi
Y mab newydd ddangos llun i fi o Alan Partridge a
Bwgan Brain - y mab yn wherthin - Dafydd Du a Caryl o'n nhw!! Oh diar! #mynyffachi
Os yw'r grandchildren yn ddrwg dwi'n fforso nhw i
watcho omnibws Pobol Y Cwm - neud y tric bob tro. Llefen am orie! #mynyffachi
Ifan Tregaron ar 'Noson Lawen' heno - jiw smo fe di newid dim. Dal ddim yn ffyni!!!
No comments:
Post a Comment