Fe wnaeth Beryl Griffiths ysgrifennu cerdd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2018 wedi iddi ddarllen y dyfyniad:
“Welshness is a preoccupation, a political position, a form of dissent against the dominance of English culture”.
Cymreictod
Rhywle ym mhlygion y siôl a lapiwyd amdanaf,
Ym mhlethiadau ei chynhesrwydd clyd, roedd un edau,
Yn batrwm hardd, yn llinyn o geinder, yn araf
Ddirwyn yn gwlwm o berthyn, o gysylltiadau.
Aeth rhin yr edau feddal, o’i throi rhwng fy mysedd,
Yn rhan ohonof, ac wrth im fentro yn dalog
Hyd lwybrau bywyd roedd yno, a’i gafael rhyfedd
Yn dynn amdanaf, yn gysur pur, diysgog.
Ond weithiau, pan ddaw rhai i dynnu yn yr edau,
I’w datod am na welant iddi werth na harddwch,
Bydd brath yr edau’n torri i’r byw a bydd creithiau
Hen, hen friwiau’n llosgi yn danbaid yn y duwch.
Ac felly, os gofynni pa beth yw Cymreictod,
Nid safiad, na dewis, na her, hwn yw fy hanfod.

Geirfa
ceinder - harddwch, prydferthwch
dirwyn - coil, wind up
rhin - daioni neu nodd cuddiedig neu gyfrinachol; y peth hanfodol (da) y mae’r gweddill yn deillio ohono
talog - bywiog, sionc
diysgog - am rywun neu rywbeth sydd wedi’i wreiddio’n gadarn, nad yw’n siglo’n hawdd; ansigladwy, ansigledig.
torri i'r byw - cut to the quick
No comments:
Post a Comment