Tra bod amryw o arferion coginio Lloegr wedi treiddio lawr o'r bonedd, tyfu'n llythrennol o'r tir wnaeth bwydydd traddodiadol Cymru. Wrth deithio trwy Gymru yn 1188, sylwodd Gerallt Gymro fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddibynnol ar anifeiliaid, llaeth, caws, menyn a cheirch am eu bwyd. Yn gyffredinol, dyma oedd cynhaliaeth y Cymry ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a
gyhoeddwyd yn 1896, fod tyddynwyr a thenantiaid yn llwyr ddibynnol ar
gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd
llwy yn seiliedig ar geirch. Byddai ffermwyr a thyddynwyr yn pesgi ac
yn lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ar y
ffermydd mwyaf, arferid lladd bustach neu fuwch hesb a rhennid y cig
rhwng ffermydd cyfagos.
Wrth gadw gwartheg, doedd dim prinder o laeth ar gyfer cynhyrchu menyn a
chaws.Tyfid llysiau yn y caeau neu'r ardd - cennin, moron, bresych,
perlysiau yn bennaf, a thatws o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Câi
ffrwythau, planhigion ac aeron a dyfai'n wyllt ac anifeiliaid ac adar
gwyllt eu hela yn eu tymor, a gallai cymunedau a drigai'n agos i'r
arfordir amrywio eu hymborth drwy gasglu pysgod cregyn megis cocos,
cregyn gleision, gwichiaid a llygaid meheryn, a gwymon i wneud bara
lawr.
Gan mai gwlad fynyddig yw Cymru, ceirch a haidd oedd y cnydau a dyfai
orau, gyda gwenith wedi ei gyfyngu i'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Blawd
ceirch yn ei amrywiol ffurf oedd sylfaen amryw o'r bwydydd. Roedd llymru
a sucan, sef blawd ceirch wedi ei fwydo mewn dŵr oer a llaeth enwyn, ei
ferwi hyd nes iddo gyrraedd yr ansawdd priodol, a'i weini'n lled oer â
llaeth neu driog, ynghyd â bwdram, uwd a griwel blawd ceirch, ymhlith y
prydau bob dydd a gâi eu paratoi yn yr ardaloedd gwledig hyd flynyddoedd
cynnar yr ugeinfed ganrif.
Y bara a fwyteid gan amlaf, ar hyd a lled Cymru hyd ddiwedd y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, oedd bara ceirch a luniwyd ar ffurf torthau tenau
crwn a'u crasu ar y maen neu radell dros dân agored. Yn siroedd y
gogledd fe'i defnyddid fel sylfaen i rai o'r bwydydd llwy, megis picws
mali neu siot; pryd ysgafn boblogaidd a baratoid drwy falu tafell o
fara ceirch yn fân a'i fwydo mewn llaeth enwyn. Pryd arall oedd yn
boblogaidd yn ardaloedd amaethyddol y gogledd oedd brŵes ac fe'i
paratoid yn rheolaidd ar gyfer brecwast gweision ffermydd. Fe'i gwneid
drwy falu bara ceirch a'i fwydo mewn cawl cig, yna ychwanegu haen
drwchus o fara ceirch wedi'i malu ar yr wyneb yn union cyn ei fwyta.
I raddau helaeth, roedd y gymdeithas wledig yng Nghymru yn
hunangynhaliol. Yr unig nwyddau oedd rhaid i wraig y tŷ eu prynu oedd
siwgr, halen, te, reis a chwrens. Ar y Sul ac ar achlysuron arbennig,
arferid prynu darn o gig gan y cigydd lleol ar gyfer cinio rhost, a
pharatoi phwdin reis cartref i ddilyn. Ychydig iawn o ffrwythau ffres a
brynid a dim ond ar rai achlysuron arbennig iawn y bwyteid wyau. O
ystyried y deunydd crai, roedd angen cryn ddyfeisgarwch er mwyn darparu
bwydlen amrywiol o ddydd i ddydd. Roedd paratoi amrywiaeth o fwydydd
llwy o un cynhwysyn sylfaenol, sef bara ceirch, yn gofyn am ddawn
arbennig. Roedd angen medrusrwydd tebyg wrth baratoi cawl a lobsgows,
gan ddefnyddio cig cartref.
Y tân agored a'i offer amrywiol oedd canolbwynt y coginio drwy gydol y
ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymhell i'r ugeinfed
ganrif mewn nifer o gartrefi gwledig. Roedd yr adnoddau coginio
cyfyngedig hefyd yn rheoli'r hyn y gellid ei baratoi. Câi stiwiau,
darnau o gig a phwdinau eu berwi mewn crochan. Defnyddid ffyrnau crochan
ar gyfer rhostio cig a phobi teisennau a thartennau ffrwythau a gwneid
defnydd helaeth o'r radell i bobi torthau ceirch, leicecs, bara soda,
crempog a theisennau gradell (fel pice ar y mân). Yn ogystal, defnyddid
berau, ffyrnau tun a berau potel ar gyfer rhostio cig.
Er i'r traddodiad o fyw ar gynnyrch y tir barhau hyd gyfnod mwy diweddar
yn yr ardaloedd gwledig, daeth newid yn sgil gwell ffyrdd a
chyfleusterau siopa modern, heb sôn am ddyfodiad oergelloedd a
rhewgelloedd i'r cartref. Heddiw, caiff y rhan fwyaf o'r bwydydd a
grybwyllwyd uchod eu bwyta fel 'bwyd traddodiadol' ar achlysuron
arbennig.
Diolch i Amgueddfa Cymru am yr erthygl hon.
No comments:
Post a Comment