Byddwn ni'n gwneud pice ar y maen yn y dosbarth ddydd Iau. Mae yna sawl enw amdanyn nhw - picau ar y maen, pice bach, cacen gri, cacs bach neu 'teisen radell', ac mae ryseitiau di-rif am yr un peth. Dyma un ohonynt (diolch i Amgueddfa Cymru):
Diolch i Elliw Gwawr am hon:
Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n
eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo
ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu
gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn oedd bwyta’r toes
heb ei goginio, er bod dad yn dweud y buasai’n sticio at fy nghalon! A
dwi’n sicr nad oes neb yn gallu eu gwneud nhw’n well na dad. Ond dwi’n
trio fy ngorau!
Dwi’n chwyrn fy marn ynglŷn â sut yn union y dylai cacs bach fod.
Maen nhw i fod yn syml ac yn blaen, felly plîs peidiwch â rhoi sbeis
ynddyn nhw. A pheidiwch â hyd yn oed sôn am y rhai da chi’n gallu eu
prynu gyda jam yn y canol, hollol hurt!
Mae lot o ryseitiau ar gyfer cacs yn defnyddio menyn yn unig, ond mae
rysáit dad yn defnyddio hanner menyn a hanner lard. Nawr dyw lard ddim
yn ffasiynol iawn y dyddiau yma ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i flas
ac ansawdd y cacennau felly maen werth ei drio.
Dylid coginio’r rhain ar radell haearn ond os nad oes gennych chi un
mae’n bosib eu gwneud nhw mewn padell ffrio reit drwm hefyd.

Cynhwysion
1lb blawd codi
4 oz menyn
4 oz lard
5oz siwgr
4oz syltanas
1 wy
sblash o laeth
Dull
1. torrwch y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn edrych fel briwsion.
2. Ychwanegwch y siwgr, syltanas a’r wy, a’i gymysgu nes eich bod yn
ffurfio pelen o does. Ychwanegwch sblash o laeth os oes angen.
3. Roliwch y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch a thorrwch
allan gylchoedd, neu galonnau fel gwnes i y tro hwn. (doeddwn i methu
ffeindio’r torrwr crwn!)
4. Cynheswch y radell a’i rwbio gydag ychydig o fenyn. Yna gosodwch eich
toes ar y radell a’u coginio am ryw 2-3 munud ar bob ochr.
5. Tynnwch oddi ar y radell a’u hysgeintio gydag ychydig o siwgr.
6. Triwch beidio eu bwyta i gyda ar unwaith, er dwi’n gaddo bydd hynny
yn anodd iawn. (2-4 ar y tro yw’r tueddiad yn ein teulu ni!)
No comments:
Post a Comment