1.
Tynnu
blewyn o drwyn rhywun (bod yn gas wrth rywun, ......take a
potshot at/annoy/make fun of
Mae David wedi mwynhau tynnu blewyn o drwyn y
Cynulliad hwn.
Dw i'n teimlo fel tynnu blewyn o'i ddrwyn!
Ei drosedd oedd tynnu blewyn neu ddau o drwyn y
sefydliad eglwysig.
Nofel glyfar a dychanol yn tynnu blewyn o drwyn
rhai o'r sefydliadau celfyddydol Cymreig.
Mae'r sgript yn tynnu blewyn o drwyn sawl agwedd
ar y diwylliant Cymraeg dosbarth canol, a wastad yn codi gwên.
Mae blogiwr anhysbys oedd wedi tynnu blewyn o
drwyn sawl gwleidydd ar Ynys Môn wedi datgelu mai ef yw ymgeisydd y Ceidwadwyr
ar gyfer sedd Ynys Môn
2.
Di-flewyn
ar dafod/heb flewyn ar dafod (not to mince one’s words)
Buasai wedi dymuno rhoi'r Gweinidog ar brawf , a chael
atebion di-flewyn ar dafod.
Oce diolch, di flewyn ar dafod am y sefyllfa yng
nghefn gwlad Ceredigion.
Bu'n gapten, hyfforddwr a dewiswr dros ei wlad, yn
sylwebydd di-flewyn-ar-dafod ar y radio ac mae'n un o gymeriadau mwyaf
ffraeth a phoblogaidd Cymru. (am Clive Rowlands)
Yn ei ffordd ddiymhongar ond di-flewyn-ar- dafod,
fe siaradodd am ei gwaith yn yr ardal .
heb flewyn ar dafod, yn blwmp ac yn
blaen
Dywedodd y fam ei barn wrth y prifathro heb flewyn ar
ei thafod.
I mi, mae'r Dr Robyn Léwis ar ei orau pan yw ar gefn ei
geffyl ac yn deud ei ddeud heb flewyn ar ei dafod
3.
Hollti
blew – to split hairs
Fel rwyt ti'n awgrymu, does dim pwynt hollti blew.
Mae'n bechod gweld plaid o'r fath yn troi yn blaid fach hollti
blew fel pleidwyr Lloegr fach neu hyd yn oed ` plaid dewch â'r grôt yn ôl '
ond roedd ganddo dueddiad anffodus i hollti blew a
gwneud ati i chwilio am wallau lle nad oedd rhai'n bod.
4.
Dwylo
blewiog – light fingered
Ymadrodd sydd ar dafod pawb yw dwylo blewog wrth
sôn am leidr, ond faint sy'n cofio tarddiad yr ymadrodd hwn. Stori enwog llyfr
Genesis yw'r tarddle.
Buan y daw Asterix i'r adwy i geisio achub y derwydd – ac
ar yr un pryd ddysgu gwers i'r Rhufeiniaid a'u dwylo blewog,
Oes, mae yna ddwyn wedi bod yn haul llygad goleuni gydag
un cyfrifiadur penglin wedi troi'n gyfrifiadur tan gesail rhywun gyda dwylo
blewog.
Plant â dwylo blewog: “Es i'r PayPoint i dalu am
fy nhrwydded, ond roedd rhaid i mi adael ar hast cyn cael y cyfle i dalu
oherwydd bod y plant yn dwyn losin.”
5.
I’r blewyn – to a tee/exactly
Ond ar ddau
bwynt pwysig fe gytunai'r Cymro â'r Sais i'r blewyn.
Llwyddodd y
cynllunwyr, Emyr Morris-Jones a Gwyn Eiddior, i greu set oedd yn ateb y diben i'r
blewyn.
6.
Blewyn glas – a blade of grass
Blewyn glas ar Afon Dyfi
(ffal-di-re-di-ro, ffal di rei di rei di ral)
Hudodd lawer fuwch i foddi,
(ffal-di-re-di-ro, ffal di rei di rei di ral)
No comments:
Post a Comment