Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 5 July 2019

Ben Lake yn cwrdd â dysgwyr Aberteifi





Cafodd Ben Lake ei ethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion o drwch blewyn ar noswaith ddramatig iawn ddwy flynedd yn ôl. Fel aelod ieuengaf ond un Tŷ’r Cyffredin mewn cyfnod hynod gythryblus ac mewn senedd grog, mae Ben wedi gweld chwalfa disgyblaeth y pleidiau mawr traddodiadol.


O gael cwtsh annisgwyl gan Boris Johnson ar ei ddiwrnod cyntaf, i helbulon  y cynteddau pleidleisio ac agweddau llwythol llawer o aelodau’r pleidiau mawr, mae Ben yn dyst i un o gyfnodau mwyaf diddorol ac ansicr yn hanes y wladwriaeth Brydeinig.


Ar ôl clywed am brofiadau’r Aelod Seneddol newydd ers cael ei ethol, cafodd y dosbarth gyfle i holi ystod eang o gwestiynau am Brexit,  manteision ac anfanteision o fod yn aelod o blaid fach, annibyniaeth i Gymru, pa wleidyddion San Steffan mae Ben yn eu hedmygu fwyaf, a’r hyn all ddigwydd ar ôl yr haf.


Mae Ben yn credu ei bod yn ddigon posibl y cawn ni dri phrif weinidog ac etholiad cyffredinol arall eleni. Er bod popeth mor ansicr, roedd Ben yn gallu dweud â sicrwydd y bydden ni’n trafod Brexit a’i oblygiadau cyfansoddiadol am flynyddoedd i ddod.

No comments:

Post a Comment