Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 29 June 2019

Comisiynydd y Gymraeg: Cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn flaenoriaeth




Er bod ystadegau swyddogol yn honni mai 1.7 miliwn o bobl Iwerddon sy’n deall Gwyddeleg, dim ond rhyw 73,000 sy’n siarad yr iaith bob dydd, ac er mor glodwiw yw bwriad Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, os ydym am osgoi tynged debyg i’r hyn sy wedi digwydd yn Iwerddon, bydd yn rhaid cynyddu’r niferoedd sy’n siarad Cymraeg o ddydd i ddydd. 


Dyna neges ddi-flewyn ar dafod Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg newydd, pan ddaeth i gwrdd â grŵp o ddysgwyr, pobl leol eraill a nifer o Gynghorwyr Cyngor Sir a Chynghorwyr Tref Aberteifi yng Nghastell Aberteifi ar yr 20fed o Fehefin.


Ers dechrau yn y swydd, mae’r Comisiynydd wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru i gwrdd â gwahanol gyrff a grwpiau, ac fe ddaw y gwaith o gasglu tystiolaeth a gwrando ar farn pobl ar lawr gwlad i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf. Roedd wedi gweld enghreifftiau o arfer da mewn ardaloedd y tu allan i’r Fro Gymraeg a wedi cael ei siomi mewn llefydd y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn eu hystyried i fod yn gadarnleoedd y Gymraeg. 


Nid yw’r Comisiynydd newydd yn hoff iawn o “sbin” na diwylliant ticio bocsys rhai o’n cyrff cyhoeddus. Wedi dweud hynny, teimlai fod llawer mwy o ewyllys da tuag at y Gymraeg nag oedd ugain mlynedd yn ôl.


Un o bryderon mwyaf y Comisiynydd newydd yw’r graddau mae Cymry Cymraeg yn trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf. Er bod yr ystadegau’n dangos bod nifer siaradwyr y Gymraeg yn cynyddu, prif flaenoriaeth Aled Roberts fydd cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd; dylid anelu at ganran o 20% o boblogaeth Cymru, meddai.


O ganlyniad, bydd mwy o bwyslais ar hybu a hwyluso’r defnydd o Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd. Byddai’n anodd dadlau dros estyn y safonau iaith i weddill y sector breifat a gofyn i gwmnïau fuddsoddi mewn gwasanaethau Cymraeg os nad oedd pobl yn fodlon eu defnyddio. Roedd yn hanfodol, felly, bod siaradwyr Cymraeg yn sicrhau eu bod nhw bob tro yn “gwasgu’r botwm Cymraeg” wrth ddefnyddio twll yn y wal neu diliau hunan-wasanaeth mewn archfarchnadoedd.


Yn yr un modd roedd yn hanfodol sicrhau bod digon o gyfleoedd i bobl ifainc a dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, boed hynny ar ffurf chwaraeon neu weithgareddau sydd yn dod â siaradwyr Cymraeg at ei gilydd. 


Mae’r Comisiynydd yn awyddus i weld mwy o awdurdodau lleol yn newid iaith gweinyddu mewnol. Dim ond Cyngor Gwynedd sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, meddai, ond o ystyried mai y cynghorau sir yw cyflogwyr mwyaf gorllewin Cymru, fe fyddai gweinyddu mewnol Cymraeg yn creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl ifainc a sicrhau bod llai ohonynt yn gorfod symud i Gaerdydd a Lloegr.


Cytunodd y Comisiynydd hefyd fod angen gwell dulliau o asesu effaith cau ysgolion a datblygiadau tai ar gymunedau Cymraeg. Fe gyfeiriodd yn benodol at y sefyllfa yng Nghrymych lle mae Cyngor Sir Penfro newydd dderbyn cynllun i godi 56 o dai yng nghanol y pentref.

No comments:

Post a Comment