Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 7 August 2018

Twristiaeth Cymru 'yn sefyll yn ei hunfan"

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Mae Cymru wedi "sefyll yn ei hunfan" wrth geisio denu ymwelwyr o dramor, medd arbenigwr.
Ychwanegodd Simon Calder ei fod yn achos pryder fod gwariant ymwelwyr wedi gostwng 17% mewn cyfnod pan fo'r bunt yn wan.
Daeth 39.2m o dwristiaid i'r DU yn 2017, sy'n record, ond i Lundain a'r Alban yr aeth cyfran helaeth ohonyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu tystiolaeth nhw'n awgrymu fod cyflwr y diwydiant twristiaeth yn bositif iawn ar y cyfan.

Miliwn o ymwelwyr

Daeth dros filiwn o ymwelwyr o dramor i Gymru y llynedd - cynnydd o 0.5% o'i gymharu a'r flwyddyn flaenorol.
Y pryder ydy fod y bobl yn gwario llai o arian. £369m yn 2017, gostyngiad o 17% ar y ffigwr yn 2016.
Dywedodd Mr Calder fod diffyg hediadau o'r prif wledydd i Gymru yn golygu fod pobl yn tueddi i ddod yma fel ychwanegiad i ymweliad â Lloegr, yn hytrach na'i gwneud hi'n gyrchfan uniongyrchol.
"Mae'r ffigyrau hyn yn achos pryder mawr i ddiwydiant twristiaeth Cymru," dywedodd.
"Mae'r Alban yn enwedig wedi gwneud yn dda iawn, tra bo Cymru i bob pwrpas wedi sefyll yn ei hunfan."

Mae'r dadansoddiad twristiaeth gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r DU o Ogledd America a gwledydd y tu hwnt i Ewrop.
At ei gilydd, fe aeth 20m i Lundain (i fyny 4% o 2016) a 3.2 i'r Alban (cynnydd o 17%).
Mewn cymhariaeth, daeth 1.1m i Gymru (cynnydd o 0.5%).
Fodd bynnag, tra bo gwariant ymwelwyr â Llundain wedi codi 14% i £13,546m, a'r Alban wedi codi 23% i £2,276m, gostwng 17% wnaeth y ffigwr yng Nghymru i £369m.
Ychwanegodd Mr Calder: "Mae'r gwariant yn achos pryder mawr achos mae'r bunt yn eitha pathetig ac fe fyddech chi'n disgwyl iddo fynd i fyny.
"Fe allai hyn fod oherwydd pa mor hir mae pobl yn cael eu perswadio i aros, os ydyn ni'n dod i Gymru fel ychwanegiad i'w taith i Loegr."
"Mae cynnydd enfawr wedi bod mewn hediadau rhwng Caeredig a Gogledd America, sy'n esbonio llawer," medd Mr Calder.
"Mae Cymru'n gobeithio y bydd y cyswllt newydd gyda Qatar yn gwneud yr un fath."
Tra'n cydnabod ei bod hi'n rhy gynnar i wybod a yw'r fenter honno'n llwyddiant, dywedodd bod y gwasanaeth hwnnw'n dod â Chymru'n agosach i ddinasoedd fel Shanghai.
Disgrifiodd Cyngrhair Twristiaeth Cymru'r ffigyrau fel rhai "siomedig".
Gwelodd Llundain a'r Alban gynnydd sylweddol yn yr arian gafodd ei wario yno.
Bu gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â Chymru o rannau eraill o'r DU yn 2017.

'Sector cystadleuol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu harolwg twristiaeth yn dangos fod 80% o fusnesau wedi gweld cynnydd neu fusnes tebyg o'i gymharu a 2016.
"Mae'n amlwg fod twristiaeth yn sector cystadleuol iawn yn fyd-eang a byddwn yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i wella ymhellach ar yr hyn sy gan Gymru i'w gynnig, a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu cynulleidfaoedd newydd, a chynyddu nifer yr ymwelwyr cartref ac o dramor, fel y gallwn anelu i adeiladu ar y 10m o ymwelwyr dros nos a gafodd eu croesawu ganddon ni yn 2018."
Dywedodd llefarydd fod y blynyddoedd themâu diweddar wedi cael "derbyniad da iawn" a bod y £5m a gafodd ei fuddsoddi ar ymgyrch farchnata Blwyddyn y Chwedlau wedi cyfrannu £365m yn ychwanegol at economi Cymru.
Hyd yma yn 2018, mae 100 o longau pleser wedi ymweld â Chymru, gan ddod â 51,000 o ymwelwyr o wledydd fel Unol Daleithiau America, Canada a Ffrainc.
Mae hyn yn gynnydd o 15% ar 2017.


No comments:

Post a Comment