Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 8 June 2018

Y nofel nesaf? Yr Eumenides, Neb Ond Ni, Yn y tŷ hwn

1. Yr Eumenides gan Daniel Davies
Gwasg Carreg Gwalch   £8.50

Nofel grafog [crafog - saracastic, sharp] am anghyfiawnder cymdeithasol, am Gymru, Ciwba, Corea a physgod cregyn.
Bywgraffiad Awdur:

Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Penrhyn-coch, ger Aberystwyth. Ymysg ei nofelau mae Gwylliaid Glyndŵr (2007), Hei-Ho! (2009) ac Allez Les Gallois! (2016). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a\'r Fro yn 2011, a daeth y nofel hon yn agos i\'r brig yn yr un gystadleuaeth yn 2016.

Gwybodaeth Bellach:

Roedd Gwen, Ina a Nora yn eu hwythdegau ac yn hollol sgint. Hynny yw, roedd y tair yn sgint nes iddyn nhw feddwl am gynllun anturus i wneud miloedd o bunnau ... a cheisio manteisio ar yr argyfwng tai haf yn eu pentref trwy ddulliau annisgwyl. ‘Nid wyf yn credu i mi chwerthin cymaint wrth ddarllen nofel Gymraeg ers tro’ Gareth F. Williams ‘Hawdd yw dychmygu Yr Eumenides yn cyfieithu’n ffilm boblogaidd.’ Jon Gower 

2. Neb ond Ni gan Manon Rhys
Gomer  £7.99  Enillydd y Fedal Ryddiaith 2011

Mae Dewi a Siriol yn blant arbennig - yn 'sêrs', chwedl Siriol. Mae hi'n dymuno'n ofer am gael rhedeg a dawnsio mewn pymps pinc; mae yntau'n gwrthryfela yn erbyn cael ei alw'n 'stiwpid' drwy herio pob trefn heblaw ei drefn resymol ei hun. Ac ni ŵyr neb ond nhw pa mor rhwystredig yw bod yn blentyn arbennig mewn cymdeithas sy'n mynnu labelu a thicio bocsys. 


"Dyma awdur sy'n ymddiried yn nychymyg y darllenydd."
Hazel Walford Davies
"Ceir sensitifrwydd a dyfnder eithriadol ynddo. Mae'n waith ymataliol, gwreiddiol a gwahanol..."
Branwen Jarvis
"Mae'r awdur gwreiddiol hwn yn feistr ar ddarlunio personoliaeth drwy ddeialog fewnol cymeriadau..."
Grahame Davies 

3. Yn y tŷ hwn gan Siân Northey
Gomer £9.05

Yn y Tŷ Hwn (In This House)

Bu Anna'n gaeth i'w thŷ am wythnosau a'i choes mewn plastar. Wrth i ni dreulio amser yn ei chwmni yn Nant yr Aur fe ddaw'n amlwg fod y tŷ wedi ei chaethiwo ers degawdau. Erbyn iddi gryfhau digon i allu cerdded heb ffyn baglau, mae ei gorffennol wedi newid yn llwyr. Yn ogystal â bod yn folawd [molawd - eulogy] i fan a lle, mae'r nofel delynegol [lyrical] hon yn ymdrin â chymhlethdod emosiynol cwlwm perthyn. Pencampwraig y dweud cynnil [subtle] yw Sian Northey, y math o ddweud sy'n cyfleu cymaint mwy na'r geiriau sydd ar y tudalen. Dyma awdur sy'n dilyn yr egwyddor werdd i'r llythyren drwy beidio ag afradloni  [squander] geiriau.

Adolygiadau


  • "Y mae’r nofel fer hynod hon yn ymwneud â cholled a galar ond nid nofel drist mohoni.
    Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan awdures llên ficro, mae’r dweud yn hynod gynnil yn y nofel hon. Mae’r stori yn symud yn chwim, a byr iawn ydy’r penodau. Dyma awdur sy’n parchu’i darllenydd ac sy’n fwy na pharod i awgrymu yn hytrach na dweud.
    Dyma nofel i’w mwynhau’n hamddenol a chael cyfle i dreulio amser yng nghwmni gwraig ddifyr iawn sydd, ar waethaf [= er gwaethaf] ei gorffennol, yn mwynhau gwneud y pethau bychain am mai dyna ydy cyfrinach byw ar eich pen eich hun, yn ôl Anna."
    Janet Roberts, Gwales


No comments:

Post a Comment