Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 8 June 2018

Cerddoriaeth "weird" Radio Cymru

Diolch i Golwg 360 am yr erthygl hon.

Mae un o gyfansoddwyr caneuon mwya’ poblogaidd Cymru yn dweud bod y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru yn “hybu ei difodiant [extermination/annihilation]”.
Mae Arfon Wyn wedi cyfansoddi’r Cân i Gymru fuddugol bedair gwaith, ac mae ‘Harbwr Diogel’, y gân fuddugol yn 2002, wedi dod yn glasur Cymraeg.
Bu hefyd mewn sawl grŵp roc-gwerin ac mae ei fand diweddaraf, Y Moniars, wrthi yn diddanu [entertain] ers chwarter canrif.
Yr wythnos hon mae’r canwr-gyfansoddwr wedi tanio trafodaeth ar wefan facebook, gyda’i sylwadau am y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru.
Mae’r orsaf ar fai am chwarae cerddoriaeth “sy wedi ei anelu at yr ifanc” yn ystod y dydd pan maen nhw “i gyd yn eu hysgolion neu eu colegau”, meddai.
Ac mae’r gerddoriaeth “amhersain” [dissonant/cacophonous] yn “DIEITHRIO YN ARW y gwrandawyr ffyddlon sy’n ddinasyddion hŷn”.
Yn ôl Arfon Wyn mae “hyn yn ddolur mawr i mi gan fod y ffigyrau gwrandawyr yn gostwng”.
Ac mae ganddo rybudd i benaethiaid yr orsaf: “Bydd BBC Llundain yn rhoi llai o arian o lawer i Radio Cymru yn y diwedd ac yn hybu ei difodiant yn y pendraw”.
“Annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd”
Ers gosod ei sylwadau ar facebook nos Fawrth, mae Arfon Wyn yn dweud fod y BBC wedi trefnu i’w gyfarfod yr wythnos nesaf, i drafod ei bryderon.
Ac mae’r BBC wedi cadarnhau y byddan nhw yn cyfarfod y cerddor “yn fuan”.
“Mae yn rhaid bod o wedi cyffwrdd nerf,” meddai Arfon Wyn wrth golwg360.
“Mae gymaint o bobol wedi gweld [y neges] ar facebook, a gymaint wedi ei rannu… wnes i ddweud yn y neges: ‘Os ydach chi’n cytuno efo hyn, rhannwch o.’
“Ac mae yna lwythi wedi ei rannu fo…
“Dw i’n gwybod beth sydd yn taro calon pobol Cymru.
“Mae yna annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd.”
Ond a ydy Arfon Wyn ond yn cwyno am nad yw ei gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru?
“Maen nhw yn chwarae rhai fi, chwarae teg!
“Maen nhw yn dal i chwarae ‘Harbwr Diogel’ a ‘Cae o Ŷd’ a rhyw un neu ddwy arall.
“Ond dw i ddim yn poeni am hynny.
“Beth sy’n fy nghael i ydy bod fy mam ddim yn gwrando rŵan, mae hi wedi cael llond bol ar y miwsig – ‘amhersain’ mae hi’n ei alw fo.
“A dw i’n cytuno lot efo hi…
“Dw i wedi bod yn gwrando lot yn ddiweddar, ac ynghanol rhaglen canol y ffordd, rwyt ti’n cael blast o ryw fand hollol arbrofol, gwallgof…
“Maen nhw yn trio bod yn hip, ac yn colli cynulleidfa.”
Ymateb y BBC
Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru: “Mae BBC Radio Cymru yn ymfalchio yn yr ystod eang o gerddoriaeth sydd i’w chlywed ar yr orsaf.
“Mae’r rhestr chwarae yn rhoi lle allweddol i glasuron y gorffennol a’r caneuon poblogaidd hynny sydd mor bwysig i’n gwrandawyr, ac mae ffigyrau gwrando cryf y cyfnod diwethaf yn awgrymu fod hynny’n plesio.
“Rydym hefyd yn hynod falch fod Radio Cymru yn rhoi llwyfan teilwng [deserving] i dalent newydd cerddorol Cymru.
“Serch hynny, mae cryfhau ein darpariaeth gerddorol i gynulleidfa eang yr orsaf yn destun trafod cyson ymhlith timau cynhyrchu a gyda’r diwydiant, ac mae sgyrsiau gyda’r gwrandawyr, cerddorion a labeli yn rhan bwysig o’n gwaith.”
Sylwadau
Wil: 
Wel am lol. Dwi'n meddwl fod Arfon White wedi cymysgu canol y ffordd gydag ansafonol. Os ydi Radio Cymru yn arddel ychydig o 'quality control', yna peth i ymfalchio ynddo ydi hynny siawns.
Er ei fod o'n honni i'r gwrthwyneb, mae'n anodd credu nad oes ganddo ryw fath gymhelliant personol yn hyn i gyd. I'w rant gael unrhyw fath o hygrededd mi fysa rhaid iddo fo enwi enghreifftiau yn fy marn i, h.y. pwy yw'r artistiaid "amhersain" yma a phwy yw'r artistiaid "canol y ffordd" sydd yn cael cam? Onid llawer/gormod o sylw sydd yn gwneud rhywbeth yn "ganol y ffordd" yn y lle cyntaf?
Dwi yn un sydd wedi troi at arlwy dydd Radio Cymru yn ddiweddar gan fod;
a.) y cyflwynwyr wedi gwella (sori Tommo) a
b.) y gerddoriaeth wedi gwella (sori mam Arfon Wyn)

No comments:

Post a Comment