Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 15 June 2018

Hoff dywysogion?

Mae Golwg360 wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau a chyfweliadau am hoff dywysogion beirdd a llenorion Cymru.

Dyma Rhiannon Ifans yn sôn am Branwen ferch Llŷr, tra bod Eurig Salisbury yn trafod Madog Maredudd.

Branwen ferch Llŷr


Mae modd “dysgu llawer iawn” o straeon pobol mewn llenyddiaeth, yn ôl arbenigwraig ar chwedlau a llên gwerin.

Dywed Rhiannon Ifans hyn wrth nodi mai Branwen ferch Llŷr o ail gainc y Mabinogi yw ei hoff dywysoges yn hanes Cymru.

Ond er nad cymeriad o gig a gwaed yw Branwen, meddai, mae’n ychwanegu bod yn well ganddi fynd “am stori dda, yn hytrach nag am hanes”.

“Dw i’n hoffi’r stori yn hytrach na’r hanes, achos mewn gwirionedd cymeriad chwedlonol oedd hi, felly wnaeth hi ddim byd yn hanesyddol,” meddai Rhiannon Ifans wrth golwg360.

“Stori ydy hi, ond rydan ni’n gallu dysgu llawer iawn o straeon pobol mewn llenyddiaeth, ac efallai defnyddio ychydig bach ohonyn nhw yn ein hamgylchiada ni heddiw.”

“annibynnol ei barn”

Er mai gweithredu’n “dawal” y mae Branwen trwy gydol y chwedl, dywed Rhiannon Ifans ymhellach ei bod yn edmygu’r dywysoges oherwydd mai “dynes annibynnol ei barn” yw hi.

“Mae[‘r chwedl] yn dysgu i ni fod Branwen ei hun yn ddynes annibynnol ei barn,” meddai. “Mae’n ddynes ddeallus tu hwnt. Mae’n llawer mwy deallus na’i gŵr [Matholwch].

“Mae hi’n ufudd ac yn hardd ac yn gallu gwneud popeth. Mae’n gallu trin pobol, mae’n gallu bod yn lladmerydd [interpreter], ac mae’n gallu gwneud yr holl bethau yma, ond wrth gwrs mae’n eu gwneud nhw’n dawal, yndê.

“Mae ganddi hi ei chynllun ei hun ar gyfer ei hun, ac mae’n medru rhyddhau ei hun o’i chaethiwed…”

Chwedl Branwen ferch Llŷr

Dyma glip sain o Rhiannon Ifans yn adrodd hanes Branwen ac yn sôn ymhellach am nodweddion ei chymeriad…(linc).

Eurig Salisbury: Madog Maredudd

Mae bardd o Geredigion yn dweud ei bod yn “bosib iawn” ei fod yn ddisgynnydd i un o dywysogion enwocaf yr hen Bowys, Madog ap Maredudd.
Yn ôl Eurig Salisbury, mae nifer o drigolion Dyffryn Ceiriog yng nghanol Powys, sef bro mebyd ei fam, yn gallu olrhain ei hachau i dywysogion Powys.
Mae’n dweud felly fod y cysylltiad teuluol posib wedi dylanwadu ar ei ddewis o Madog ap Maredudd fel ei “hoff dywysog yn hanes Cymru”.
Mae’n ychwanegu hefyd fod y tywysog o’r 12G yn “dipyn o foi”, gyda Phowys ar ei “mwyaf grymus” yn ystod ei deyrnasiad ef.
“Mi roedd ei dir o a’i rym o yn ymestyn yr holl ffordd o gyrion Caer yn y gogledd i lawr i Bumlumon yn y de, ac mi roedd o hefyd yn cynnwys rhannau helaeth o’r hyn cael ei alw’n Lloegr, yn cynnwys tre’ Croesoswallt,” meddai.



No comments:

Post a Comment