Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 29 April 2018

Ydych chi'n bwyta'n lân?

Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn yma.

Mae'n gyngor da a chall i fwyta a byw yn iach, ond beth yn union mae hyn yn ei olygu?
Mae pawb yn wahanol ac mae beth sy'n gweddu un person efallai ddim yn addas i eraill. Mae Cymru Fyw wedi sgwrsio gyda thri pherson ynglŷn â sut maen nhw wedi newid eu harferion bwyta: 
Dan Williams: Deiet Paleo a crossfit
Er mai her blwyddyn newydd oedd dilyn y deiet yma i Dan a chriw o'i gampfa ar y cychwyn, bellach mae ganddo berthynas newydd â bwyd, ac mae'n parhau i wneud penderfyniadau penodol am yr hyn mae'n ei fwyta ac yfed.
"Ar y deiet yma dwyt ti ddim yn cael bwyta dim cynnyrch llaeth, siwgr, bwydydd wedi eu prosesu, grawnfwydydd, pasta, bara, reis, dim ffa a dim cnau mwnci nac yfed alcohol. Felly yr hyn wyt ti'n cael bwyta ydy cig, llysiau, bwyd môr, cnau, hadau a ffrwythau.
"Fe ddechreuais i ym mis Ionawr, ac mi oedd o'n anodd am yr ychydig wythnosau cyntaf, ond unwaith rwyt ti dros y cravings mae'n dod yn haws.
"R'on i'n trio cadw at 40% carbs, 30% protein a 30% braster i bob pryd bwyd ac yn defnyddio ap ar fy ffôn i gyfri'r calorïau a logio fy mwyd. Roeddwn i'n mesur popeth a gwneud yn siŵr fod pob pryd bwyd yn dod allan yn cyfateb i hynna."
"Cynyddu muscle mass oedd y bwriad i fi yn hytrach na cholli pwysau, ond mae'r fat wedi disgyn off am nad ydw i'n bwyta siwgr. Y bwriad i fi ydy bod yn fit for life.
"Mae fy mherthynas efo bwyd wedi newid. Dwi'n fwy ymwybodol o sut mae fy nghorff yn ymateb i fwyd, a dyma'r ffordd fydda i'n bwyta o hyn allan. Dwi'n gwneud dewisiadau cywir pan dwi'n mynd allan i fwyta. Os oes 'na gacen yn y swyddfa, mi wna i gymryd darn bach iawn, ond wna i byth fynd yn wirion, dwi'n gallu limitio fy hun yn haws. Dwi'n meddwl am faint o galorïau sy' mewn bar o siocled a wna i gymryd afal neu llond llaw o gnau neu dates yn lle.
"Dwi am wneud y newid nawr a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fy iechyd yn y tymor hir, felly mae beth dwi'n fwyta rŵan, gobeithio fydda i'n gweld y canlyniadau pan dwi'n hŷn. Dwi ddim am gael diabetes neu ganser, a dim jyst yr elfen bwyta ydy o, ond hefyd yr ymarfer corff. Mae'r ddau yn mynd efo'i gilydd. Dwi'n bwyta i roi tanwydd i'r corff yn hytrach na bwyta am bleser."
Catrin Enid: Perchennog caffi Bara Menyn yng Nghaerdydd
"Rwy' wedi cyrraedd oedran nawr lle dwi bron yn 40 a dwi'n meddwl alla i ddim neud hyn rhagor, alla i ddim bwyta beth fi mo'yn," meddai Catrin.
"Rwy' wedi trio colli pwysau yn y gorffennol trwy dorri carbs allan o fy neiet a mynd i'r gym. Cadwes i'r pwysau bant am bach, ond yn raddol aeth e nôl arno, achos doedd e ddim yn gynaladwy. Nawr rwy'n cadw pwysau, lle o'r blaen oedden i'n gallu ei golli lot yn haws.
"Ond mae rhywbeth wedi clicio nawr. Dim mynd ar ddeiet ydw i, ond newid ffordd o fyw."
Mae Catrin wedi cael ei hysbrydoli gan sawl ffrind sy'n dilyn ffordd iach o fyw, yn arbennig Betsan Haf Evans, a gafodd broblemau â'i chroen, a newidodd ei deiet, ac yn dweud bod hynny wedi helpu i glirio'r cyflwr.
"Fe ddechreuodd Betsan fwyta'n lân, torri mas glwten a bwyta bwydydd organig ac fe weles i'r effaith gadarnhaol oedd e'n ei gael arni hi a meddylies i fy mod i am roi go iddo fe hefyd.
"Dwi yn yr adeg yna o fy mywyd lle fi'n edrych i'r dyfodol. Mae clefyd y galon a phroblemau iechyd eraill yn amlwg yn fy nheulu i, a fi wedi penderfynu mod i am drial fy ngorau i beidio ag etifeddu'r problemau yna.
"Fi'n trial bod yn ddi-glwten, ac yn bwyta bwydydd organig neu free range gymaint ag y galla i, dwi'n bwyta nŵdls quinoa yn lle pasta, a dim bara ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae cig organig tair gwaith y pris i gig arall ac mae hynny wedi agor fy llygaid.
"Un o'r prif bethau fi 'di dechrau gwneud ydy bone broth. Cawl ydy e mewn gwirionedd, lle ti'n berwi esgyrn beef organig i wneud pot mawr o stoc, sy'n llawn maeth a collagen sy'n llesol i dy gorff, yn benodol i ardal y perfedd a dy gallbladder di. Dwi'n yfed e'n gynnes, ond hefyd yn coginio pasta, llysiau a chig ynddo fe. Mae'n ysgafn ac yn hawdd."
Mae Catrin Enid ar fin symud lleoliad ei chaffi Bara Menyn ac agor yn ardal Bae Caerdydd, lle mae stiwdios drama'r BBC a swyddfeydd nifer o gwmnïau teledu.
"Rwy' wedi 'neud ymchwil a gofyn i'r bobl sy'n gweithio yna pa fath o fwydydd fydden nhw'n hoffi gweld yn cael ei werthu. Mae llawer wedi dod nôl yn dweud eu bod nhw am gael bwydydd figan, raw foods, salads gyda dressings naturiol, soy a chynnyrch naturiol fel mêl yn lle siwgr ac yn y blaen. Mae llawer ohonyn nhw yn actorion neu'n gweithio'n y cyfryngau ac yn dilyn trends bwyd ac yn poeni beth sy'n mynd mewn i'w cyrff ac am fod yn iach.
"Rhai blynyddoedd yn ôl fydde rhywun yn meddwl, pam talu am salad mewn caffi? Ond erbyn hyn mae'n lot fwy na letys a thomatos, mae'n gymysgedd o gynhwysion blasus.
"Alli di ddim rhedeg busnes bwyd a diystyru anghenion y cwsmeriaid, maen rhaid i ti ei gymryd e o ddifri'. Mae pobl sy'n ddi-glwten neu ddim yn bwyta cynnyrch llaeth neu sydd ag alergeddau - nid bod yn ffysi maen nhw, maen nhw'n gyflyrau go iawn, oherwydd y math o fwydydd rydyn ni wedi bod yn bwyta dros y blynyddoedd, mae ein cyrff ni nawr yn dweud 'na, alla i ddim 'neud hyn rhagor.'
"Dim ond newydd ddechrau ydw i, ond yn barod dwi'n teimlo'n iachach, ysgafnach ac yn fwy hyderus."
Erin Dafydd: Hyfforddwr personol
Ond ai dilyn deiet arbenigol yw'r peth gorau i wneud, neu dilyn ychydig o synnwyr cyffredin?
Mae Erin Dafydd yn cynnig y pwyntiau canlynol fel cyngor cyffredinol da ar fwyta, a byw yn iach:
  • Y deiet gorau yw un fedri di gadw ato
  • Mae angen cydbwysedd yn y math o fwydydd ti'n bwyta
  • Mae'n bwysig i fwyta digon o galorïau, a bwyta popeth yn gymhedrol
  • Mae angen digon o brotein ar y corff, yn enwedig wrth fynd yn hŷn
  • Ceisia beidio yfed calorïau, fel siwgr mewn te, diodydd meddal sy'n uchel mewn siwgr ac alcohol
  • Yfa ddigon o ddŵr
  • Fe ddylai o leia' hanner dy blât fod yn llysiau a ffrwythau
  • Tria osgoi bwyd wedi ei brosesu
  • Tria fwyta bwydydd sy'n rhyddhau egni dros amser, er enghraifft tatws melys, pasta a reis cyflawn yn lle reis gwyn
  • Tria fwyta bwyd mor agos at natur â phosib, bwyd naturiol, lleol yn ei dymor
  • Gwranda ar dy gorff ac os wyt ti angen cyngor cer i siarad â'r doctor, deietegydd neu hyfforddwr yn y gampfa
  • Cofia bod angen joio hefyd! Os wyt ti'n gor-fwyta, paid â phoeni, ond ceisia fod yn 'dda' y diwrnod wedyn!

No comments:

Post a Comment