Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 28 April 2018

Hanes yr Iaith mewn 50 Gair: Gwynt

Gwynt: Awyr yn symud yn naturiol ac yn fwy neu lai cyflym a chyffrous, chwyth, chwa, awel gref; ffrwd o awyr yn chwythu o gyfeiriad neilltuol (=particular); awyr; symudiad awyr a achosir gan wyntyll, megin (=bellows), &c.; yn ffig. ymffrost, balchder; siarad gwag, dim ond geiriau. (Geiriadur Prifysgol Cymru)

Ifor ap Glyn sy'n esbonio mwy yma.

Nodiadau

I'r hen forwyr gynt yn oes y llongau hwylio roedd gwynt yn holl bwysig.....ac mae sawl ymadrodd o fyd y morwr wedi dod mewn i'r iaith lafar.

Gwynt teg ar ei ôl e!  Yn wreiddiol roedd hyn yn ffordd o ddymuno'n dda i rywun, dymuno gwynt teg iddo, hynny yw gwynt o'r cyfeiriad cywir yn hytrach na gwynt croes, ond erbyn heddiw mae e wedi dod yn ymadrodd digon negyddol (= good riddance).

Heb wynt fedrai'r morwyr gynt ddim symud i unman. Weithiau mae'r gwynt yn gallu gostegu'n [= grow calm, become silent] ddirybudd, ac dyna sydd y tu ôl i'r ymadrodd nesaf: wnaeth hynny dynnu'r gwynt o fy hwyliau i braidd.

Mae unrhyw beth sy'n tarfu arnoch chi'n [ = disturb] annisgwyl fel eich bod chi'n methu mynd ymlaen yn unol â'ch bwriad gwreiddiol yn tynnu'r gwynt o'ch hwyliau.

Ar y llaw arall...."Roedd e'n swnio'n reit nerfus wrth annerch y dorf i ddechrau, ond mi gafodd e wynt dan ei adain wedyn". 

Mae hyn yn cyfleu bod y siaradwr wedi mynd i hwyl (=warm to his subject) wrth areithio, â'i huodledd (=eloquence, oratory) yn ei gario fel aderyn yn cael ei gynnal a'i gario ar y gwynt.

Nid morwyr yw'r unig rai sy'n diddori yng nghyfeiriad y gwynt. Ar y tir roedd deall cyfeiriad y gwynt yn help i ddarogan y tywydd.

Gwynt o'r de, glaw cyn te.

Mae 'na sawl enw ar y gwyntoedd o wahanol gyfeiriadau. Gwynt y Gwyddel yw gwynt sy'n chwythu o'r gorllewin tra bo  gwynt traed y meirw yn enw ar wynt o'r dwyrain am fod 'na draddodiad ers talwm y dylid claddu'r meirw gyda'u traed yn wynebu'r dwyrain. Ond ym Maldwyn gwynt coch Amwythig ydy'r enw ar wynt o'r cyfeiriad yna, a hwnnw mae'n debyg yn cario rhywfaint o lwch pridd coch Amwythig i'w ganlyn (= accompanying it).

Byddai'r hen borthmyn ar y llaw arall yn cyfeirio at wynt o'r dwyrain fel gwynt ffroen yr ych (= ox's nostril).

Dyn ni'n dal i ddefnyddio hen ddywediadau mewn cyswllt newydd.

"Dw i ddim yn siŵr fedra i ddod efo chdi i'r gêm nos Sadwrn. Bydd rhaid i mi weld o ba ffordd mae'r gwynt yn chwythu", hynny yw, sut dywydd sydd yna ar yr aelwyd.

A phan dyn ni'n dweud, "mae 'na rywbeth yn y gwynt", dyn ni'n teimlo bod rhywbeth ar fin digwydd.

Yn y Beibl nerth dinistriol gan amlaf sydd gan y gwynt. Yn Llyfr Hoseia mae sôn fel hyn am bobl Israel a'u problemau: "Gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant". (hau - to sow, heuasant - they sowed, medi - to reap, medant - they will reap).

Mae gwynt yn gallu bod yn beth duwiol hefyd, yn enwedig pan mae'n cael ei ddefnyddio fel term am anadl.

"Rhedais i adre â fy ngwynt yn fy nwrn". Dyma ymadrodd sy'n disgrifio rhywun sydd â chymaint o frys fel maen nhw'n methu cael eu hanal (=anadl) yn iawn. (cael ei ana[d]l - to get one's breath).

Mae'r dwrn yn sicr yn dal tipyn lai o wynt na'r 'sgyfaint. Petai rhywun yn cyrraedd eich tŷ wedi rhuthro fel 'na, hwyrach (=efallai) bysech chi'n dweud, "cym funud rŵan i ti gael dy wynt atat".

Rhywbeth dros dro fel arfer ydy colli dy wynt neu bod allan o wynt, ond os ydy rhywun yn cael trafferth anadlu, dyn ni'n dweud, "mae e'n methu cael ei wynt", ond yn y de byddai rhywun yn fwy tebygol o ddweud, "mae fe ffili cael ei anal". Mae hynny i osgoi dryswch am fod gwynt hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y de i olygu "ogla" (arogl).

"Duw mae gwynt ffein ar y cino 'ma". Ac o'r ystyr yma datblygodd y ferf "gwynto". "Bois bach, alla i wynto'i draed o fan hyn!"

[Falle bod y boi 'na wedi torri gwynt hefyd, ond dyna stori arall. RV]

Mae oglau yn cael ei gario ar y gwynt, ac dyma sut mae'r ystyr yma wedi datblygu, mae'n debyg.

"Bydd yn amhosib cadw pethau'n dawel os bydd y gwas yn cael gwynt ar y stori". Hynny yw clywed ogla stori ar y gwynt (clywed ogla - iaith y gogledd = arogli) fel y bydd anifail rheibus [= greedy, voracious) yn clywed ogla ei brae (= prae: prey).

Dyma esboniad diddorol o Maes-e:

Mae "clywed ogla" neu hyd yn oed "clywed smel" yn cael ei ddefnyddio trwy Gymru i gyd dwi'n meddwl. Mae run peth yn y Wyddeleg.

Ti'n "clywed" â dy synhwyrau i gyd heblaw dy lygaid.

GPC - "Clywed: Canfod neu dderbyn argraffiadau drwy'r synhwyrau (ac eithrio'r golwg)"

Dwi'n cofio edrych yn wirion ar hen ddyn yn gweud "w, fi'n clywed rhywbeth yn cered lan 'y mraich i' pan oedd e jest yn golygu bod ei fraich e'n cosi.

Yn ol GPC hefyd mae "clywed ar" neu "clywed ar y galon" yn golygu "teimlo fel gwneud rhywbeth".

Un ymadrodd arall cyn gorffen, sef ar yr un gwynt. Fel dyn ni'n clywed, mae geiriau ar yr un gwynt yn tynnu sylw at y ffaith bod rhywun yn dweud rhywbeth sy'n groes i'r hyn oedden nhw newydd ddweud gynt.

"Peth hyll ydy defnyddio geiriau Saesneg di-angen wrth siarad Cymraeg, meddai Mrs Jones. Ac wedyn, ar yr un gwynt, fe wneith hi ychwanegu ei bod hi'n 'snobbish' ac yn dangos bod rhywun yn 'uneducated'."

Ond rhywbeth hollol wahanol ydy dweud rhywbeth ar un gwynt.

"Arafa, does dim eisiau dweud y darn i gyd ar un gwynt", hynny yw heb gymryd anal o gwbl.

Wel, mae'n hamser ni heddiw wedi mynd fel y gwynt, a chyn i neb ddechrau dweud dan ei wynt, "Argwl, mae hwn yn hirwyntog, dw i'n siŵr eich bod chi'n haeddu rhyw wynt bach (gwynt bach = a short pause, break), neu seibiant ar ôl gwrando mor astud arna finnau yn gwyntyllu ( = winnow, to investigate a topic thoroughly by discussion) rhai o ystyron y gair gwynt.







No comments:

Post a Comment