Diolch i Penri James a "Crwys" am hyn:
Dacw nhw: y lili fach,
Mint a theim a mwsg,
Y safri fach a'r lafant pêr,
A llwyn o focs ynghwsg;
Dwy neu dair briallen ffel,
A daffodil, bid siŵr,
A'r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw 'hen ŵr'.
Cafodd Crwys ei eni yn 1875, a’i enw bedydd oedd William Williams, ond mi gymrodd ei enw barddol o’r capel lleol, sef Pant y Crwys. Enillodd y Goron deirgwaith a dod yn Archdderwydd hefyd. Ac yn ôl y sôn, roedd o’n dipyn o gymeriad. (Bethan Gwanas)
safri = savory
ffel = cunning, wily
No comments:
Post a Comment