Mae'n mynd yn anoddach i bobl drefnu apwyntiad cyfleus gyda'u meddyg teulu, yn ôl ffigyrau newydd - ac ardaloedd trefol sy'n diodde' waethaf.
Rhwng 2012/13 a 2016/17, fe gododd y nifer sy'n cael trafferth mawr i gael apwyntiad cyfleus o 15% i 21%.
Fe wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru holi 10,000 o bobl a chanfod bod y broblem ddwywaith yn waeth mewn ardaloedd trefol o'i gymharu â'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad.
Dywedodd lefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw'n cydweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at feddygon fel rhan o gynllun diwygio ehangach.
Poblogaeth sy'n heneiddio
Llynedd fe wnaeth cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gogledd Cymru, Dr Eamonn Jessup ddweud fod y gwasanaeth yn y rhanbarth "bron â chyrraedd stad o argyfwng".
Yn yr arolwg o 10,493 o bobl, mae nifer y bobl aeth i weld meddyg teulu dros y 12 mis diwethaf wedi aros yn gymharol sefydlog ar 77%.
Ond fe gododd y nifer oedd wedi cael trafferth i wneud hynny yn sylweddol mewn rhai ardaloedd.
O'r rhai gafodd drafferthion, roedd 23% yn byw mewn dinasoedd, 20% mewn trefi, 15% mewn pentrefi a 12% mewn mannau anghysbell yng nghefn gwlad.
Er hyn dywedodd 90% o'r bobl a holwyd eu bod yn fodlon iawn gyda'r gwasanaethu a gawson nhw pan aethon nhw i weld eu meddyg teulu.
'Angen buddsoddiad'
Cadeirydd cyngor y BMA yng Nghymru yw Dr David Bailey, a dywedodd fod cynnydd ym mhoblogaeth ardaloedd trefol a dinesig yn cael effaith.
Ond ychwanegodd: "Mae hyn yn llai pwysig na heneiddio. Ry'n ni'n byw yn hirach - saith mlynedd yn hwy na 30 mlynedd yn ôl.
"Mae'r boblogaeth wedi cynyddu 10%, a hynny'n bennaf rhwng 74-82 oed pan mae pobl angen gweld eu meddyg yn amlach."
Dywedodd hefyd fod meddygon yn gweld eu cleifion chwe gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 19 miliwn o apwyntiadau dros Gymru gyfan.
Er bod mwy o gleifion ar restrau meddygfeydd ardaloedd trefol a dinesig, mae recriwtio meddygon yn broblem sy'n gyffredin i bob ardal, a dywedodd fod angen buddsoddiad yn y maes.
Ychwanegodd Dr Bailey fod angen fferyllfeydd cymunedol a nyrsys arbenigol er mwyn rhannu'r baich.
No comments:
Post a Comment