Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn yma.
Mae papur newydd y Sunday Times wedi cyhoeddi rhestr o'r "llefydd gorau i fyw yng Nghymru", gyda'r Mwmbwls yn Abertawe ar y brig.
Mae'n disodli'r Bont-faen ar dop y rhestr, gyda'r dref ym Mro Morgannwg ddim arni o gwbl eleni.
Dywedodd y Times eu bod wedi asesu nifer o ffactorau, gan gynnwys brogarwch, canlyniadau arholiadau, cyflymdra band eang ac argaeledd siopau lleol.
Dyma'r chweched flwyddyn i'r papur newydd gyhoeddi'r rhestr ar gyfer y DU gyfan, ac mae 10 lle o Gymru arni eleni.
Llefydd yng Nghymru ar y rhestr (yn nhrefn y wyddor):
- Abersoch, Gwynedd
- Llanandras, Powys
- Llanussyllt, Sir Benfro
- Mwmbwls, Abertawe
- Mynwy, Sir Fynwy
- Penarth, Bro Morgannwg
- Talacharn, Sir Gaerfyrddin
- Tregolwyn, Bro Morgannwg
- Tyddewi, Sir Benfro
- Y Fenni, Sir Fynwy
Ond beth yw'ch hoff lefydd chi i fyw a bod?
Yn ystod ymgyrch Hoff Le Cymru Fyw, daeth nifer o leoliadau i'r amlwg, rhai yn llai adnabyddus nag eraill...
Elis James (digrifwr) - Machynlleth adeg yr ŵyl gomedi
"Fy hoff le yng Nghymru yw Machynlleth yn ystod yr ŵyl gomedi a gynhelir yno, penwythnos cyntaf mis Mai. Ma' Mach yn dre' hyfryd 'ta pryd chi'n dewis mynd, ond gyda dros gant o gomedïwyr gorau'r byd yn perfformio, ma' fe hyd yn oed yn well. Ma'r awyrgylch wastod yn wych, ma'r tywydd wastod yn wych (croesi bysedd!), a ma' fe'n rhoi cyfle i bobl y canolbarth fwynhau y gorau sydd gan gomedi i'w gynnig."
Manon Carpenter (pencampwraig beicio mynydd) - Mynydd Machen
"Rwy'n beicio mynydd dros y byd i gyd. Ond, pan fi'n dod nôl i Gymru, un o fy hoff lefydd i fynd yw copa mynydd Machen. Mae'n bosib gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad ac rwy'n teimlo mod i wir wedi cyrraedd adre!
"Mae'r daith i fyny'n un anodd ond ma' dod lawr yn hollol ddiymdrech. 'Sdim ots os ma' hi'n heulog, glawio neu bwrw eira, fi wastad yn cyrraedd y gwaelod gyda gwên fawr ar fy ngwyneb!"
(Lleolir Mynydd Machen rhwng Risga a Machen, ger Caerffili. Uchder: 362 medr/1188 tr.)
Anwen Evans - Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno
Meddai Anwen Evans, un o ddarllenwyr Cymru Fyw: "Un o fy hoff lefydd yw Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno, Dyffryn Conwy, sef cartref yr Esgob William Morgan.
"Yr ardd, gyda phlanhigion yn adlewyrchu yr ardd fel ag yr oedd hi yn y 16eg ganrif, yw fy hoff le - eistedd ar fainc fach ger wal gerrig, gyda choeden afalau yn ymestyn ei brigau dros y fainc, ac afon yn llifo gerllaw.
"Arogl hyfryd y blodau yn gymysg efo'r mwg coed tân o simdde'r tŷ, a'r adar yn canu. Yn wir, yng ngeiriau R Williams Parry: "...mae yno flas y cynfyd, yn aros fel hen win".
"Mae'r holl ardal yn brydferth tu hwnt, ond yn bennaf oll, mae'r llonyddwch a'r distawrwydd yn falm i'r enaid."
No comments:
Post a Comment